Amgueddfa Penmaenmawr

Old Post Office, Conwy Old Road, Penmaenmawr, Conwy, LL34 6UU

Mae ymweliad ag Amgueddfa Penmaenmawr yn daith trwy amser - taith a fydd yn mynd â chi yn ôl, dros filoedd o flynyddoedd i’r gorffennol gan arwain at y dref a welwn yma heddiw. Os hoffech chwilota am hanesion bywydau ein hynafiaid o’r Oesoedd Neolithig ag Efydd a fu’n byw ar yr ucheldir o’n cwmpas, neu os hoffech deithio ymlaen mewn amser i gyfnod oes Victoria pan roedd poblogrwydd Penmaenmawr fel tref lan y môr ‘rhwysgfawr’ yn cydsefyll yn anesmwyth yng ngŵydd y caledi a wynebwyd gan y chwarelwyr a’u teuluoedd, bydd profiad yr amgueddfa yma yn mynd â chi yna.

Gwobrau

  • Thumbnail