Beicio

Ar hyn o bryd, mae mewn sefyllfa wych diolch i lwyddiant euraidd Geraint Thomas MBE yn y Gemau Olympaidd ac yn ei fuddugoliaeth fel enillydd y Tour de France yn 2018. Mae'n ymddangos bod pawb wedi cael eu dal gan seiclo, o deuluoedd i 'Wiggins-wannabes'. Ac maent i gyd yn mynd ar eu beiciau ac yn dod tuag atom, ynghyd â chefnogwyr digwyddiadau seiclo difrifol a triathlon.

Nid dim ond ein bryniau a'n mynyddoedd sy'n apelio. Mae gennym bob math o lwybrau beicio ar gyfer pob math o feicwyr - heriau serth difrifol a mordeithiau hamdden ysgafn oddi ar y ffordd, llwybrau pellter hir a theithiau byrion ar hyd yr arfordir. Yna mae ein golygfeydd, priffyrdd, llwybrau beicio a llwybrau beicio traffig isel, a gwestai a lletyau sy'n gyfeillgar i feicwyr, lle gallwch barcio'ch beic am y noson.

Ac i'r rheiny sy'n well ganddynt deiars craflyd a mwdlyd i darmac mae beicio mynydd o safon byd yn ein coedwigoedd a mynyddoedd creigiog mawr, drwg.

Ffordd Brailsford Way

Ydych chi’n ffansio seiclo’r un llwybrau ac un o gewri’r byd seiclo? Mae dau lwybr beicio newydd wedi eu hagor i dalu teyrnged Syr David Brailsford a'r llwybrau a ddefnyddiodd i feicio wrth dyfu i fyny. 

Dywedodd Brailsford a fagwyd yn Neiniolen “Mae’r lle yn chwa o awyr iach yn llythrennol. Dwi byth yn gadael heb deimlo yn well na phan gyrhaeddais. Wrth dyfu i fyny, dyma’r llwybrau yr oeddwn yn hoff o’u beicio; y ffordd, y dringo, y cyfuniad hyfryd rhwng môr a mynydd. Dyma oedd fy ysbrydoliaeth.”

Mae’r llwybrau 50 milltir a 75 milltir hefyd wedi cael eu defnyddio yn ystod cyfnodau'r Tour of Britain yn 2014 a 2015. Mae’r ffyrdd yn llyfn: perffaith ar gyfer beicio, a’r llwybrau 50-milltir a 75-milltir ill dau wedi eu harwyddo’n dda.

Canolfan Gwyliau Beicio

Mae Dolgellau a Phenrhyn Llŷn yn ddau o leoliadau beicio Cymru. Cymerwch eich dewis o fwy na 10 o lwybrau traffig isel gydag arwyddion a ddewiswyd yn arbennig ar gyfer eu mynediad i rai o'r heriau beicio gorau yn ein tirweddau gwledig.

Gwynedd Recreational Routes - Family-friendly off-road routes

Ar gyfer saith o brofiadau beicio sy'n addas i deuluoedd, gallwch lawrlwytho ein Llwybrau Hamdden Gwynedd o’r adran Beicio ar ein gwefan. Fe welwch ddisgrifiadau o dros 30 milltir o lwybrau golygfaol a di-draffig (neu traffig ysgafn) ar hyd hen linellau rheilffordd ac wrth ymyl Afon Menai a Llyn Padarn, Llanberis.

Bydd Lôn Las Ogwen yn rhoi blas i chi o'n Llwybrau Hamdden. Mae'n daith beicio 10 milltir hyfryd o Fangor hyd at lyn mynydd Llyn Ogwen, yn dilyn dyffryn Afon Cegin (am opsiwn ysgafn ewch am y pedair milltir cyntaf i Dregarth yn unig). Am y rhan fwyaf o'r ffordd mae'n rhedeg ar hyd trac rheilffyrdd segur a oedd yn cario llechi i Borth Penrhyn. Mae yna lawer o ddiddordeb hanesyddol ar y llwybr, o Gastell Penrhyn - wedi'i adeiladu o gyfoeth y diwydiant llechi - i Chwarel Penrhyn ei hun, y mwyaf yn y byd. Gallwch hefyd gerdded y llwybr hwn, ac mae'r adrannau'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Bwletin beicio mynydd.

Coed y Brenin

Coed y Brenin ger Dolgellau yw'r ganolfan lwybrau neilltuedig mwyaf yn y DU. Heddiw, mae Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin yn gartref i wyth llwybr beicio mynydd, ardal sgiliau a siop llogi beiciau a manwerth. Ceir arwyddbyst ar hyd yr holl lwybrau beicio mynydd ac maent yn dechrau o faes parcio'r ganolfan ymwelwyr. O lwybrau retro, creigiog a chlasurol i lwybrau cyfoes modern mae rhywbeth at ddant pawb! Llwybr Beast (gradd du) yw'r un y mae beicwyr profiadol yn anelu ato, gyda llwybr y MinorTaur (gradd glas) yn gyflwyniad gwych i feicio mynydd i bob oedrana beiciau addasol, a dyma'r llwybr mwyaf poblogaidd ym Mharc Coed y Brenin. Mae llwybr Yr Afon yn mynd heibio rhai o rannau prydferthaf afon Mawddach, ag yn addas i deuluoedd neu’r rhai sydd isio ei chymryd yn hawdd a mwynhau’r olygfa!

Llwybrau Mawr Blaenau Ffestiniog

Yn sicr, maent wedi bod yn brysur yn hen brifddinas llechi, Blaenau Ffestiniog, lle mae brwdfrydwyr beicio oddi ar y ffordd eisoes wedi eu syfrdanu gan ganolfan beicio mynydd newydd Antur Stiniog sydd i’w gweld yn yr hen chwarel lechi. Mae gan y llwybrau cyflym rolio, neidiau, diferion a nodweddion creigiau yn ogystal â rhai o'r bermau gorau o gwmpas.

Downhill mountian biking at Antur Stiniog, Llechwedd
Beicio lawr mynydd yn Antur Stiniog, Llechwedd

Beicio Oddi ar y Ffordd

Mae'r rhan fwyaf o'n coedwigoedd eraill hefyd wedi dal y chwilen beicio mynydd. Am ragor o lwybrau canmoliaethus, ewch i Feddgelert, Dyfi, Gwydyr a Phenmachno. Ac i burdebwyr sydd yn caru’r tir naturiol mae yna lwybrau glaswellt, llwybrau creigiog a llwybrau hynafol, fel llwybrau traws gwlad treigl ar draws Mynydd Hiraethog o Lyn Brenig.