Llŷn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Yn 1957, dynodwyd rhan helaeth o Benrhyn Llŷn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Prif bwrpas dynodi ardal fel AHNE yw gwarchod, cynnal a chadw harddwch naturiol yn yr ardal. Mae hyn yn cynnwys amddiffyn bywyd gwyllt a phlanhigion, yn ogystal â nodweddion daearegol a thirlun yr ardal.

Mae'n bwysig hefyd bod nodweddion archeolegol, olion hanesyddol a nodweddion pensaernïol yr ardal yn cael eu gwarchod. Mae'r dynodiad hefyd yn gosod cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i ddarparu ar gyfer mwynhad tawel o gefn gwlad ac ystyried buddiannau’r rhai sy'n byw a gweithio yno.

Mae pob AHNE yn dibynnu ar reolau cynllunio a rheolaeth ymarferol o gefn gwlad er mwyn cyflawni’r gofynion deddfwriaeth hyn. Hefyd, yn sgîl Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, cyflwynwyd pwerau newydd er mwyn helpu i warchod y tirluniau gwerthfawr hyn, a’i gwneud yn orfodol i baratoi Cynllun Rheoli ar gyfer pob AHNE.

Mae gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru gyfrifoldeb cyffredinol am AHNE yn y cyd-destun cenedlaethol, ond cânt eu rheoli gan Awdurdodau Lleol gyda chefnogaeth y Cyd-bwyllgorau Ymgynghorol, cymunedau lleol a phartneriaethau.

Cynllun Rheoli

Yn ogystal â gwarchod a rheoli'r amgylchedd, mae’n rhaid i'r cynllun gymryd ystyriaeth o les cymdeithasol ac anghenion economaidd yr ardal y mae’n ei wasanaethu. Dylai hefyd geisio hyrwyddo ac annog camau gweithredu a fydd yn gwella cyflwr neu gynyddu adnodd neu rinwedd arbennig.

Yma yn Llŷn rydym yn y broses o adolygu ein Cynllun Rheoli cyntaf a fabwysiadwyd yn 2005. Mae angen i Gynlluniau Rheoli ystyried AHNE fel tirluniau byw, mannau lle mae pobl yn byw a gweithio ynddynt yn ogystal â mannau y mae pobl yn ymweld â hwy er mwyn eu mwynhau. Mae Cynllun AHNE Llŷn yn gosod gweledigaeth glir ar gyfer rheoli'r AHNE yn y dyfodol, gan gynnwys rhestr o nodau ac amcanion a chynllun gweithredu manwl ar gyfer y gwaith i'w wneud.

Ffeithiau ag Ffigyrau

•Mae Llŷn yn un o ddim ond 5 AHNE yng Nghymru gyfan.
•Gwelir y frân goesgoch ar logo AHNE Llŷn.
•Dyma aderyn sy'n arbennig i arfordir creigiog y Penrhyn lle ceir oddeutu 60 pâr yn nythu.
•Mae'r AHNE yn cynnwys 155Km2 o'r Penrhyn.
•Roedd cyfrifiad 2001 yn cofnodi poblogaeth yr AHNE fel 6,502, gyda 70% o’r nifer yn siarad Cymraeg.