Siopau a Cynnyrch Lleol

Mae ein siopau yn rhoi sylw i ddewis personol a gwaith llaw sydd fwy neu lai yn unigryw. wrth gwrs, mae siopau arferol y stryd fawr yma hefyd ond rhan yn unig yw’r rhain o’n tirlun adwerthu arbennig. 

Mae siopa bob amser yn bleser yn y siopau teuluol cyfeillgar ar stryd fawr prif drefi’r ardal sef Bala, Caernarfon, Dolgellau, Llanrwst a Phwllheli. Mae ein siopau yn rhan hanfodol o’n cymuned ac mae croeso cynnes yn dod fel rhan o’r gwasanaeth, waeth os ydych yn lleol neu yn ymwelydd. Am ragor o fanylion am brynu'n lleol ewch i dudalen Wyneblyfr (Facebook) Prynu'n Lleol Gwynedd.

I gael manylion am yr hyn sy’n digwydd yn ein byd creadigol, ewch i www.creativegwynedd.com.  Yno hefyd cewch y newyddion diweddaraf ym maes celf a rhestr cyfasnsawdd o artistiaid, cymdeithasau celf a chanolfannau celf.