Ymweld yn Ddiogel.
Gwnewch y pethau bychain i gael effaith fawr er diogelwch pawb:
Gofalu am ein gilydd
- Cadw pellter
- Glanhau dwylo’n rheolaidd
- Cadw draw o fannau prysur a thorfeydd
Gofalu am ein bro
- Dilynwch arwyddion a chyngor
- Ailgylchu neu gael gwared o ysbwriel yn gyfrifol
- Dilynwch y côd cefn gwlad
Gofalu am ein hunain wrth gynllunio o flaen llaw
- Ymchwiliwch a pharatowch cyn teithio i osgoi siom - ni fydd popeth ar agor
- Ystyriwch ymweld ag ardaloedd llai prysur neu ar adegau tawelach
- Ymgyfarwyddwch efo Rheoliadau Covid-19 Cymru
Newidiadau diweddar a newidiadau i ddod
O 18 Ebrill ymlaen
- dim ond mewn lleoliadau iechyd a gofal y mae’n ofynnol gwisgo gorchudd wyneb yn ôl y gyfraith
O 26 Mai ymlaen
- os bydd y sefyllfa bresennol o ran iechyd y cyhoedd yn parhau’n sefydlog, bydd yr holl gyfyngiadau sy’n weddill yn cael eu dileu