Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035
Egwyddorion Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035
Gweledigaeth:
"Economi Ymweld er budd a lles pobl, amgylchedd, iaith a diwylliant Gwynedd ac Eryri"
Mae’r maes twristiaeth wedi bod yn derbyn sylw gan y Cyngor fel rhan o flaenoriaethau Cynllun Gwynedd. Mae nifer o drafodaethau wedi eu cynnal i ddatblygu Egwyddorion Economi Ymweld newydd ar gyfer y sir ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gogyfer ar 15 mlynedd nesaf.
Wrth edrych i lunio ein hegwyddorion ar gyfer y dyfodol, rhoddwyd ystyriaeth i ddiffiniad o dwristiaeth cynaliadwy neu gyfrifol Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig (UNWTO):
“Twristiaeth sy’n cymryd llawn ystyriaeth o’i effaith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol presennol ac i’r dyfodol, gan ymateb i anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a chymunedau lleol”.
Cafodd y cynllun ei lansio yn Medi 2023.
Isod mae cyswllt i’r prif ddarnau o waith cefndirol sydd wedi eu hystyried hyd yma.
- Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 - Cynllun Strategol
- Nodyn Briffio 4 ar yr Economi Ymweld yng Ngwynedd ac Eryri 2035 (Medi 2024)
- Nodyn Briffio 3 ar yr Economi Ymweld yng Ngwynedd ac Eryri 2035 (Haf 2023)
- Nodyn Briffio 2 ar yr Economi Ymweld yng Ngwynedd ac Eryri 2035 (Mawrth 2022)
- Nodyn Briffio 1 ar yr Economi Ymweld yng Ngwynedd ac Eryri 2035 (2022)
- Adroddiad Cabinet Cyngor Gwynedd 14/2/2023
- Cyfarfod Awrdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 8/2/2023
- Adolygiad Rheolaeth Cyrchfan
- Ariannu Blaenoriaethau Twristiaeth y Dyfodol
- Adolygiad Llety Twristiaeth Sirol
- Cyflwyniadau Rhyngwladol ar Dwristiaeth Cynaliadwy (Julian Alps, Slovenia)
- Cynllun Eryri (Parc Cenedlaethol Eryri)