Llwybrau Beicio Bala a Penllyn

Mae yna gyfleoedd helaeth ac amrywiol ar gyfer beicio naill ai yn ardal y Bala a Phenllyn neu gerllaw. Mae'r cyfleoedd hyn yn cynnwys ffyrdd lleol tawel ar gyfer beicio, llwybrau di-gar a dringo heriol gyda bylchau dros 1,000 troedfedd o uchder. Nodwch y gall ffyrdd mewn mannau mynyddig fod yn serth, yn gul a gyda chwymp i'r ochr. 

Isod ceir enghreifftiau o lwybrau a gynhwysir yn y daflen y gellir ei lawr lwytho.

Llwybr 11: Bala - Llanuwchllyn

Pellter: 10 milltir
Graddfa: Hawdd - Cymhedrol 
Mae’r daith hon yn dilyn ymyl Llyn Tegid, llyn naturiol mwyaf Cymru. Lleolir y llyn mewn hollt ddaearegol ac ynddo ceir y pysgod unigryw y gwyniad. Mae pysgota a hwylio yn boblogaidd yma, a cheir mynediad diogel at lan y llyn yn Llangower. Ar y daith hon gwelir Aran Fawddwy, Cadair Idris ac Arenig Fawr, rhai o fynyddoedd uchaf Eryri. Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn cynnig gwasanaeth rhwng Y Bala a Llanuwchllyn a gellir cludo beiciau ar y tren os trefnir hynny ym mlaen llaw.

Llwybr 12: Bala - Llanuwchllyn - Llyn Efyrnwy - Bala

Pellter: 23 milltir 
Graddfa: anodd 
Mae’r llwybr beicio hwn, sy’n arwain tros fynyddoedd y Berwyn, yn dilyn taith11 ond ychydig cyn cyrraedd Llanuwchllyn mae’n gwyro i’r De cyn dechrau dringo i Fwlch y Groes y bwlch uchaf i gerbydau yng Nghymru: 546m. Dyma daith heriol i feicwyr gan fod mannau dringo a disgyn serth, ond bydd golygfeydd godidog o fynyddoedd a dyffrynnoedd dyfnion a ffurfiwyd gan afonydd ia yn werth eu gweld. Mae adar y rhosdir yn ffynnu yn y math yma o gynefin ac ym mhen deheuol Llyn Efyrnwy lleolir canolfannau Ymwelwyr ac RSPB.

Llwybr 13: Llanuwchllyn - Trawsfynydd

Pellter: 14 milltir 
Graddfa: anodd
Dyma un o hen ffyrdd y porthmyn, yn cysylltu Llanuwchllyn a Thrawsfynydd. Taith sy’n dringo trwy dir serth a gwyllt dyffryn afon Lliw a chyrraedd 530m (Bwlch Pen-y-Feidiog). Yna’r ffordd yn troelli a disgyn am Drawsfynydd ac yn croesi olion ffordd Rufeinig Sarn Helen gyda Chadair Idris a Rhinogydd yn drawiadol yn y pellter. Yn Nhrawsfynydd mae Canolfan Treftadaeth (Llys Ednowain) a nepell yng Nghoed y Brenin ceir un o ganolfannau beicio mynydd gorau ym Mhrydain.  

LLwybr 14: Llanuwchllyn - Dolhendre - Llanuwchllyn

Pellter: 4 milltir
Graddfa: hawdd
Taith feicio hamddenol yn dilyn rhan isaf a phrydferth afon Lliw, sydd hefyd yn boblogaidd gyda physgotwyr brithyll. Nepell o’r ffordd mae olion gwaith aur ac yng Ngharndochan un o gestyll y Tywysog Llewelyn. Yn agos i bont Dolhendre edrychwch ar y plac wal diddorol ar y teras o elusendai. Cyn cyrraedd pentref Llanuwchllyn fe welwch gerflun o’r awdur a’r addysgwr O.M.Edwards ac hefyd ei fab Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru.

Llwybr 15: Bala - Rhyduchaf - Parc - Bala

Pellter: 8 milltir
Graddfa: anodd
Taith gymharol fer a bryniog gyda golygfeydd agored o’r bryniau a’r mynyddoedd sy’n amgylchynu’r Bala a Llyn Tegid ac sydd yn darparu cyflwyniad campus i’r ardal. Mae’r gwastadir corsiog yn gynefin perffaith i’r gylfeinir, ehedydd a’r adar ysglyfaethus fel y bwncathod, pob un gyda’i gri arbennig ei hun. Rhaid cymryd gofal wrth ddisgyn i lawr y rhiw serth i’r ffordd fawr yn Llanycil, ger Llyn Tegid. 

Llwybr 16: Bala - Llandderfel - Cynwyd

Pellter: 11 milltir
Graddfa: hawdd - cymhedrol
Dyma daith hamddenol yn dilyn dyffryn afon Ddyfrdwy, o’r Bala i Gynwyd, trwy bentref tlws Llandderfel. Toc wedi cychwyn ar y daith cewch gipolwg ar Lyn Tegid a thref Y Bala. Ymhen rhyw filltir, ar ôl croesi pont gul, fe welwch blac ar graig, yn nodi mai hwn oedd safle y treialon cŵn defaid cyntaf erioed yn 1873. Adeiladwyd yr hen reilffordd ar hyd y dyffryn, gan Henry Robertson yn y bedwaredd ganrif a’r bymtheg, a fo hefyd adeiladodd Pale Hall, sydd ar y chwith cyn croesi’r Ddyfrdwy yn Llandderfel. Tu draw i Landderfel, ble mae’r dyffryn yn agor allan, gwelir dolydd gwastad hyfryd, yn wrthgyferbyniol i fryniau serth y Berwyn tua’r De. Yna fe groesi’r afon Ddyfrdwy drachefn a chyrraedd Cynwyd dros bont brydferth a adeiladwyd yn 1612.