Treftadaeth a Diwylliant
Dyma beth sydd yn ein gwneud ni’n wahanol. Mae cymysgedd arbennig o safleoedd hanesyddol wedi’u dotio ar hyd y wlad a’r arfordir – caerau a chwareli llechi Treftadaeth y Byd, cysegrfeydd Celtaidd a chanolfannau diwylliannol. Mae yma dirweddau ysbrydoledig hefyd, a iaith Gymraeg fyw y gallwch ei chlywed a’i gweld ym mhob man. Mae’r holl bethau hyn wedi cyfrannu at greu Gogledd Cymru fel y mae heddiw – rhan unigryw o’r Deyrnas Unedig. Mae hon yn hunaniaeth yr hoffem ei rhannu â phawb, drwy gyfrwng geiriau, cerddoriaeth a mentrau newydd fel Ein Treftadaeth, sy’n dod â’r gorffennol yn fyw mewn amryw o ffyrdd gwahanol.
Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru
Mae llechi gafodd eu rhwygo o fynyddoedd Eryri nid yn unig wedi toi adeiladau ym mhedwar ban byd ond hefyd wedi ffurfio y tirlun unigryw sydd i’w weld hyd heddiw ar hyd a lled gogledd orllewin Cymru. Crewyd cymunedau oedd yn fwrlwm o fywyd diwyllianol a gwleidyddol gan helpu i sicrhau parhad yr iaith Gymraeg. Mae’n dreftadaeth gyfoethog a dyma paham mae statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, pedwerydd Safle Treftadaeth y Byd Cymru, i’r diwydiant fel cydnabyddiaeth o gyfraniad llechi i ddatblygiad dynoliaeth. Am fwy o wybodaeth ewch i Llechi Cymru
Ein Treftadaeth
Mae Ein Treftadaeth yn cwmpasu popeth o gynhanes i ddyfodiad y Rhufeiniaid, llwybrau’r pererinion i Dywysogion Gwynedd, tirweddau ysbrydoledig i’r diwydiant llechi. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Ein Treftadaeth.
Tywysogion Gwynedd
Dim ond un rhan o’r hanes yw’r cestyll cadarn a adeiladwyd gan Frenin Lloegr, Edward I. Dewch i ddarganfod mwy am Dywysogion cynhenid Gwynedd mewn arddangosfa yng Nghanolfan Groeso Conwy, sy’n dangos mapiau wedi’u hanimeiddio a mapiau chwilio, arddangosfeydd rhyngweithiol, barddoniaeth Gymraeg a cherddoriaeth. Mae arddangosfeydd yng Nghanolfan Groeso Betws y Coed, Castell Cricieth ac yng Nghanolfan Groeso Beddgelert.
Beth ddywed Bryn am Enlli?
Cymaint yw grym tirweddau Eryri fel y gall pawb, pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, gael blas ohonynt. Dyma beth sydd gan yr arwr lleol Bryn Terfel i’w ddweud am Ynys Enlli, yr ynys ym mhen draw Pen Llŷn: ‘Mae’n ynys hynod ... bychan, ond hudol, lle i fyfyrio. Maen nhw’n dweud bod 20,000 o seintiau wedi’u claddu yma, a dwi’n siŵr bod hyn yn wir, achos, wir i chi, ’dwi erioed wedi gweld lle mor ysbrydol ... wrth i ni gyrraedd, fe ganodd côr o forloi i ni wrth i ni ddod i mewn i’r bae.’
Carreg a Llechen
Mae diwydiant llechi Gogledd Cymru yn llawn hanes sy'n cael ei adrodd mewn safleoedd llechi diwydiannol megis Chwarel Hen Llanfair (Llanfair), Mwynglawdd Corris, Gwaith Llechi Inigo Jones (Penygroes), Ceudyllau Llechi Llechwedd (Blaenau Ffestiniog), Amgueddfa Lechi Cymru (Llanberis) a Mwynglawdd Copr Sygun (Beddgelert). Mae carreg i’w gael ym mhob man hefyd, mewn cestyll ac aneddleoedd Celtaidd hynafol megis Tre’r Ceiri ar gopa creigiog mynyddoedd Yr Eifl yn Llŷn. Mae cestyll, wrth gwrs, yn rhywbeth yr ydym yn arbenigo ynddynt yma. Mae cestyll grymus Caernarfon, Harlech a Chonwy – y tri ohonynt yn Safleoedd Treftadaeth y Byd – yn ddolenni yn y ‘gadwyn haearn’ a adeiladwyd gan y Brenin Edward I yn y canol oesoedd.
Amgueddfa Lechi Cymru
Daw Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis â diwydiant a fu unwaith yn gyfrifol am ‘roi to ar y byd’, yn ôl yn fyw. Nid amgueddfa gyffredin mohoni. Dyma’r gweithdai go iawn o’r 19eg ganrif, yn edrych fel petai’r gweithwyr newydd adael am y diwrnod. Mae yma hefyd res o fythynnod y chwarelwyr ac olwyn ddŵr anferth. Does ryfedd bod yma’n ganolbwynt i gais y diwydiant llechi am statws Treftadaeth y Byd.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am blastai a thai hanesyddol, mawr a bach – er enghraifft, Castell Penrhyn ym Mangor a Thŷ Mawr Wybrnant, Penmachno, cartref cyffredin yr Esgob William Morgan, wnaeth gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg am y tro cyntaf.
Geiriau a cherddoriaeth
Mae ein hiaith delynegol yn fiwsig i’r clustiau. Am fwy o felodïau Celtaidd a’r cyfle i gymryd rhan mewn arddangosfeydd rhyngweithiol, ewch i Dŷ Siamas, Dolgellau, y Ganolfan Genedlaethol i Gerddoriaeth Werin. Ac ar gyfer llenyddiaeth a barddoniaeth, ewch draw i Dŷ Newydd, Canolfan Ysgrifennu Creadigol Genedlaethol Cymru, Llanystumdwy.
Pobl a llefydd
Cafodd y gwleidydd tanllyd, Lloyd George, a ddaeth yn Brif Weinidog, fagwraeth heddychlon ym mhentref Llanystumdwy – ewch i ymweld â’r amgueddfa yn y pentref sy’n deyrnged i’r ‘Dewin Cymreig’ carismataidd. Gweledigaeth un gŵr – y pensaer Syr Clough Williams-Ellis – oedd pentref ffantasi Portmeirion, ble daw’r Eidal i ogledd Cymru. Ewch yno i gael eich rhyfeddu. Mae Kate Roberts (1891-1985) yn un o awduron mwyaf blaengar Cymru. Dewch i ddarganfod mwy am ei bywyd a’i gwaith yn y ganolfan dreftadaeth sydd wedi’i lleoli yn ei chartref pan oedd yn blentyn, sef Cae’r Gors, Rhosgadfan.
Cadw
Cadw yw gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ofalu am sawl safle hanesyddol megis Plas Mawr, Conwy a chestyll pwysig. Lawr lwythwch y fersiwn diweddaraf o’r app o siop Apple neu Google ar-lein.
Hanes Lleol ar eich ffôn
Edrychwch allan am y logo 'HistoryPoints' ar furiau, ffens a ffenestri. Scaniwch y côd QR ar eich ffôn symudol neu dabled a dewch o hyd i hanes yr hyn sydd o'ch blaen