Beicio Mynydd

Dechreuodd y cyfan ym Mharc Coedwig Coed y Brenin yn ôl yn y 1990au. Yma sefydlwyd beicio mynydd cyfoes Prydain pan ddaeth criw o bobl frwdfrydig at ei gilydd i greu llwybrau trac unigol arbenigol. Ac ers hynny mae wedi tyfu. Bellach mae llwybrau Coed y Brenin rhyw 90 milltir o hyd. Fel beicio ar y ffordd, maent yn addas i bobl o bob gallu. Bydd y beicwyr go iawn yn debyg o fynd am lwybr Bwystfil y Brenin, llwybr 24 milltir o hyd (gradd ‘du’ yn nhermau sgïo), ond bydd yn well gan feicwyr mwy hamddenol lwybr Yr Afon, llwybr ‘gwyrdd’, pum milltir o hyd sy’n dipyn haws. Mae llwybr ar gyfer plant ifanc a beicwyr gydag anableddau hyd yn oed - ac mae pawb yn aros yn eiddgar am gael dod â’r diwrnod i ben gyda phaned a theisen yng nghaffi’r ganolfan ymwelwyr.

Mae Blaenau Ffestiniog, cyn ‘bencadlys llechi’r byd’, wedi gwneud defnydd da o’r llechi gyda chanolfan feicio Antur ‘Stiniog. Mae pobl sy’n gwirioni ar feicio i lawr gelltydd yn canmol y lle i’r cymylau. ‘Canolfan llwybrau beic brawychus’ ac ‘ychwanegiad rhagorol i’r sîn beicio mynydd yng Ngogledd Cymru’ - sylwadau nodweddiadol gan feicwyr byr eu gwynt.
Ac mae mwy o feicio mynydd o safon byd eang yma - yr oll sydd rhaid i chi ei wneud ydi mynd am Goedwig Penmachno.

Canolfannau Beicio Mynydd

Antur Stiniog
Blaenau Ffestiniog LL41 3NB
www.anturstiniog.com

Coed y Brenin
Dolgellau LL40 2HZ
www.naturalresource.wales/coed-y-brenin

Gwydyr Forest
Betws y Coed
www.facebook.com/GwydirMTBtrails/

Dyfi Trails
Machynlleth SY20 8AY
www.dyfimountainbiking.org.uk