Iaith Gymraeg
Does dim amheuaeth fod ardal Eryri Mynyddoedd a Môr yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg. Yma, Cymraeg yw’r iaith o ddydd i ddydd a fei lleferir ai deall gan y mwyafrif helaeth o’r boblogaeth. Cymraeg yw un o ieithoedd mwyaf hynafol Ewrop ac mae’n perthyn i'r teulu ieithyddol Indo Ewropeaidd.Mae’r Cymry'n ddisgynyddion o’r llwyth Celtaidd a ddaeth i Brydain o gwmpas 600 C.C. Yn ystod meddiannaeth y Rhufeiniaid, ‘Brythoneg’ oedd yr iaith a lefarwyd gan y Celtiaid. Yn ystod y cyfnod yma bu i'r Celtiaid fenthyg nifer o eiriau Lladin; megis pont / pons, eglwys / ecclesia, ystafell / stabellum sydd yn parhau i’w cael eu defnyddio mewn Cymraeg modern heddiw.
Hanes
Rhywbryd yn ystod 400 a 700AD fe ddatblygodd Brythoneg i fod yn Gymraeg, sydd yn perthyn yn agos i Gernyweg a Llydaweg. Mae’r gwaith hynaf i oroesi yn y Gymraeg yn olrhain i’r 7fed ganrif, o ganlyniad Cymraeg yw’r iaith ar dyst hynaf yn Ewrop. Mae’r cerddi cynharaf yn yr iaith Gymraeg yn perthyn i’r Traddodiad Barddol, ysgrifennwyd y darnau mwyaf enwog gan Taliesin ac Aneirin. Gwaith mwyaf adnabyddus Aneirin oedd ei gerdd Y Gododdin sydd yn coffáu milwyr dewr a frwydrodd ym mrwydr Catraeth yn 600AD. Dyma’r gwaith cyntaf i grybwyll yr arweinydd a rhyfelwr Arthur. Mae modd gweld y cerddi yma yn Llyfr Aneirin a Llyfr Coch Hergest. Cafodd y llyfrau eu cofnodi mewn mynachlogydd yn ystod y cyfnod canoloesol, ond gall y cerddi gael eu holrhain i 595 a 850 AD. Dyma’r cerddi hynaf ar gof a chadw ym Mhrydain. Yn ystod yr un cyfnod cafodd y casgliad mwyaf enwog a dylanwadol o storiâu eu cofnodi, sef y Mabinogi sydd yn cyfeirio at Dduwiau ac at gyfnod y Celtiaid.
Yn ystod y Canol Oesoedd, Cymraeg oedd iaith y llysoedd barn yng Nghymru ac roedd cyfreithiau Hywel Dda yn ganolog i’r system. Fe orchfygodd y Normaniaid Brydain yn 1066, ar iaith swyddogol oedd Ffrangeg a Saesneg ac felly dyma oedd iaith y maes ar dosbarth gweithio. Er hynny, fe gadwodd y Gymraeg ei statws yn iaith ddiwylliedig a faethodd y tywysogion. Pan gafodd y deddfau uno 1536 a 1542 eu deddfu, fe ddaeth ynghyd a newidiadau sylweddol i ddefnydd y Gymraeg, fe wnaed Saesneg yn iaith swyddogol busnes a gweinyddiaeth. Yn dilyn deddfu’r deddfau uno ni oedd yn bosib i Gymry uniaith gynnal swyddfa swyddogol yng Nghymru.
Yn y 17eg ganrif fe ledaenodd anghydffurfiaeth yn gyflym yng Nghymru, a Chymraeg oedd iaith mwyafrif o'r capeli. Yn ogystal â hyn fe sefydlwyd ysgolion i ddysgu plant i ddarllen y Beibl. Er canlyniad i hyn roedd nifer o bobl Cymru'n llythrennog. Gyda dyfodiad y wasg cafodd dros 25,000 o lyfrau eu hargraffu yn y 18fed ganrif yn unig.
Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol fe ddylanwadodd y twf rheilffyrdd a phapurau newydd gryn dipyn ar yr iaith. Fe gynyddodd mewnfudiad i fannau diwydiannol De Cymru ac fe welwyd dirywiad yng nghryfder yr iaith ac fe ostyngodd y nifer o siaradwyr Cymraeg o 80% i 50%. Yn y mannau diwydiannol o Ogledd Cymru, roedd y diwydiant llechi yn bennaf yn atynnu’r boblogaeth o Gymru frodorol a oedd yn siarad Cymraeg, a hyd heddiw mae’r ardaloedd hynny yn gadarn lefydd yr iaith Gymraeg.
Yn adroddiad 1847 a elwir yn “Brad y Llyfrau Gleision” cafodd ddiwylliant Cymreig ei gystwyo, ac fe ddatganwyd mai’r iaith Gymraeg oedd ar fai am lefelau gwael addysg. Er mwyn gorfodi Saesneg fel iaith addysg cafodd yr arwydd ‘Welsh not’ ei ddefnyddio mewn llawer o ysgolion. Darn o bren ydoedd wedi ei nodi gyda’r llythrennau 'WN' a gaiff ei hongian ar wddf y plentyn cyntaf i siarad Cymraeg yn y dosbarth. Byddai wedyn yn cael ei drosglwyddo i’r plentyn nesaf a siaradodd Gymraeg, byddai'r plentyn a fyddai'n gwisgo’r arwydd ar ddiwedd y dydd ei gosbi.
Caiff ei amcangyfrif bod mwy na 20,000 o siaradwyr Cymraeg wedi colli eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod dirwasgiad y 30au, fe adawodd y Cymry yn eu miloedd i chwilio am waith. Fe arweiniwyd yr amgylchiadau hyn ymhlith eraill i sefydliad Plaid Cymru yn 1925 ac i'r ymosodiad ar ysgol fomio Penyberth ym Mhen Llyn. Yn ystod yr un cyfnod cafodd Urdd Gobaith Cymru ei sefydlu gan Syr Ifan ap Owen Edwards a gwelwyd twf enfawr mewn ysgrifen a llenyddiaeth yn y Gymraeg.
Yn 1962 fe ymddangosodd Saunders Lewis (un o’r tri a roddodd yr ysgol fomio ar dan) yn y wasg eto am ei araith chwyldroadol ar radio’r BBC, Tynged yr Iaith, roedd ei araith yn erfyn ar bobl i achub yr iaith Gymraeg. Fe wnaeth ei araith ysbrydoli pobl ifanc y 60au i sefydlu Cymdeithas yr Iaith, carfan pwyso di dreisgar a oedd yn ymgyrchu dros oroesiad yr iaith. Cafodd llawer eu carcharu oherwydd eu gweithredoedd. Mae canlyniad eu gweithredoedd llwyddiannus yn cynnwys dwy ddeddf iaith Gymraeg, arwyddion ffordd ddwyieithog, Radio Cymru, sefydlu S4C ac addysg ddwyieithog.
Cymraeg - Iaith fyw
Mae’r iaith heddiw yn rhan allweddol o lywodraeth leol a chenedlaethol, addysg, busnes a masnach, gweinyddiaeth a diwylliant. Y prif wyliau diwylliannol yw’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd sydd yn dathlu'r cyfoeth o ddawn Gymraeg ym meysydd cerddoriaeth glasurol, roc a gwerin, llenyddiaeth, drama, rhyddiaith, celf a gwyddoniaeth.
Ceir galerïau, theatrau, amgueddfeydd, neuaddau cyngerdd a llyfrgelloedd trwy ardal Eryri Mynyddoedd a Môr a byddent yn cynnal a chefnogi’r cannoedd o weithgareddau diwylliannol Gymraeg sydd yn cael eu cynnal yn yr ardal pob blwyddyn.
Naws am Le - Y Gymraeg
Mae gan Gymru ddwy iaith fyw – un ohonynt yn iaith arbennig i ni a’r llall yn cael ei rhannu â gweddill y byd. Mae'r Gymraeg i'w gweld ar ei chryfaf a'i gwannaf yn y canolbarth. Yma ceir rhai o’r ardaloedd lle mae’r ganran uchaf o bobl yn siarad Cymraeg ac eraill â'r ganran isaf. Yn y Bala er enghraifft, mae dros 81% o’r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg rhugl (Cyfrifiad 2001).... ...Cymraeg yw iaith naturiol llawer o bobl Cymru. Dangosodd ffigurau Cyfrifiad 2001, a ryddhawyd yn Chwefror 2003, gynnydd o tua 80,000 yn y nifer o bobl yng Nghymru a all siarad Cymraeg. Dangosodd y ffigurau hefyd fod 37.7% o blant rhwng tair a phymtheg oed yn gallu siarad yr iaith – cynnydd o 13.4% ers y Cyfrifiad cynt yn 1991.
Dysgu Cymraeg
Mae’r pentref chwarel, Nant Gwrtheyrn, a oedd unwaith yn wag yn fan anghyffredin i gael Canolfan Iaith a Threftadaeth. Fe brynodd grŵp o ymddiriedolwyr y pentref gan gwmni Amie Stone yn 1978, dros y blynyddoedd mae’r holl bentref wedi cael ei adnewyddu. Heddiw mae gan y pentref ganolfan Treftadaeth, llety yn y tai sydd wedi cael eu hadnewyddu, tŷ bwyta a siop yn ogystal â chyfleusterau i gynnal priodasau a chynadleddau. Mae’r ganolfan yn arbenigo mewn cyrsiau Cymraeg preswyl i Ddysgwyr Cymraeg. Wedi ei leoli mewn amgylchedd prydferth, mae’r pentref yn atynfa i ymwelwyr yn ogystal â bod yn ganolfan i ddysgu. Ewch i wefan Nant Gwrtheyrn - Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru am ragor o wybodaeth.
Yr Wyddor Gymraeg
Mae 29 llythyren yn yr wyddor Gymraeg, yn cynnwys nifer o lythrennau cyfunol- ch,dd,ff,ng,ll,ph,rh,th sydd yn cynrychioli un sŵn. Fel sydd i’w gael yn y Saesneg, mae’r llafariaid a,e,I,o,u,w,y yn gallu bod yn hir neu yn fyr. a, b, c, ch, d, dd, e, f, ff, g, ng, h, i, j , l, ll, m, n, o, p, ph, r, rh, s, t, th, u, w, y.