Amdanom Ni

Y wefan hon (www.ymweldageryri.info) yw'r wefan swyddogol ar gyfer cyrchfan twristiaeth Eryri Mynyddoedd a Môr a reolir gan Gyngor Gwynedd ar ran Partneriaeth Ardal Farchnata Eryri Mynyddoedd a Môr. Y partner arall yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Mae'r ardal yn cynnwys Sir Gwynedd ac ardaloedd Dyffryn Conwy a Hiraethog sydd yng Nghonwy. Rydym yn cydweithio i ddatblygu a hyrwyddo'r cynnig twristiaeth yn y rhanbarth. I gael gwybodaeth am ardaloedd eraill o Gymru ewch i www.croesocymru.com.

Cyngor Gwynedd
Adran Economi a Chymuned
Swyddfeydd y Cyngor
Caernarfon
LL55 1SH

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Gwasanaeth Datblygu Cymunedol
Adeilad y Llyfrgell
Stryd Mostyn
Llandudno
LL30 2RP

Os ydych chi'n ddarparwr llety, atyniad, darparwr gweithgareddau, siop neu gynhyrchydd lleol, trefnydd digwyddiadau neu le i fwyta a dymunwch gael eich cynnwys ar y wefan, cysylltwch â ni trwy e-bost.