Preifatrwydd a Chwcis
Cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis i'n galluogi i ddeall yn well sut y defnyddir ein safle. Drwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n rhoi caniatâd i'r polisi hwn. Cliciwch yma i ddysgu mwy
Beth ydi gwybodaeth bersonol/sensitif?
Gwybodaeth bersonol
Unrhyw beth sy’n gallu cael ei ddefnyddio i adnabod unigolyn byw, er enghraifft enw a chyfeiriad
Gwybodaeth sensitif
Mae rhai mathau o wybodaeth amdanoch chi yn fwy arbennig ac angen eu gwarchod yn fwy gan eu bod yn sensitif (gwybodaeth categori arbennig) sef:
• Credoau gwleidyddol neu athronyddol
• Bywyd rhywiol a rhywioldeb
• Iechyd
• Ethnigrwydd
• Aelodaeth undeb llafur
• Data genetig neu biometrig (olion bysedd neu technoleg adnabod wyneb)
• Cofnodion troseddol
Pam rydym angen eich gwybodaeth?
Rydym angen defnyddio’r wybodaeth yr ydym yn ei gasglu amdanoch chi er mwyn cysylltu â chi yn y dyfodol i ddarparu gwybodaeth am ardal farchnata Eryri Mynyddoedd a Môr.
Sut mae’r gyfraith yn caniatáu i ni ddefnyddio eich gwybodaeth?
Y rheswm pam ein bod yn casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol, ydi i ddarparu gwybodaeth am ardal farchnata Eryri Mynyddoedd a Môr . Rydym yn rhoi gwybod i chi beth ydi’r rheswm wrth gasglu’r wybodaeth gennych. Os ydym yn dibynnu ar eich caniatâd i ddefnyddio eich gwybodaeth, mae gennych yr hawl i’w dynnu nôl ar unrhyw adeg. Cysylltwch â’r Gwasanaeth Twristiaeth, Marchnata a Gofal Cwsmer os am wneud hyn drwy yrru ebost.
Eich hawliau chi
Mae’r gyfraith yn rhoi nifer o hawliau i chi:
Gofyn am wybodaeth amdanoch chi eich hun
Mae gennych hawl i ofyn am yr holl wybodaeth sydd gennym amdanoch chi. Ceir hyd at un mis i ateb ceisiadau ond gellir ymestyn hyn i hyd at 2 fis ychwanegol os yw’r cais yn swmpus neu’n gymhleth.
Gofyn i ni gywiro gwybodaeth rydych yn credu sy’n anghywir
Dylech roi gwybod i ni os ydych yn credu bod gwybodaeth amdanoch yn anghywir. Caniateir hyd at un mis i ateb ceisiadau ond gellir ymestyn hyn i hyd at ddeufis ychwanegol os yw’r cais yn swmpus neu’n gymhleth.
Dileu gwybodaeth (right to be forgotten)
Gallwch ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth, er enghraifft:
• lle nad oes angen eich gwybodaeth bersonol mwyach
• lle rydych wedi tynnu eich caniatâd yn ôl
Symud eich gwybodaeth i ddarparwr arall (data portability)
Mae gennych hawl i ofyn am eich gwybodaeth bersonol mewn fformat cyffredin neu gael ei rhoi i ddarparwr gwasanaeth arall. Fodd bynnag, gall hyn ond digwydd os ydym yn:
• defnyddio eich gwybodaeth efo’ch caniatâd neu trwy gontract
• mae’r prosesu yn digwydd yn awtomataidd (gan gyfrifiadur) Mae’n anhebygol y bydd modd arfer yr hawl yma gyda mwyafrif gwasanaethau’r Cyngor.
Gwrthwynebu prosesu gwybodaeth
Mae gennych hawl i wrthwynebu o dan yr amgylchiadau a ganlyn:
• Rydym wedi prosesu eich gwybodaeth ar sail buddion cyfreithlon neu dasg gyhoeddus/awdurdod swyddogol
• Lle mae marchnata cyhoeddus
• I brosesu oherwydd ymchwil neu ystadegau
Byddwn yn cydymffurfio efo’r cais oni bai:
• Fod rhesymau cryf, cyfreithlon dros brosesu
• Bod angen sefydlu, gweithredu neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol
Pwy sy’n derbyn eich gwybodaeth?
Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau allanol er mwyn gallu darparu gwasanaeth i chi.
Sut rydym yn gwarchod eich gwybodaeth?
Rydym yn cymryd camau priodol i warchod eich cofnodion, boed nhw ar bapur neu’n electronig. Gwneir hyn trwy wahanol ffyrdd, e.e. sicrhau bod rheoli mynediad i wybodaeth ar systemau i’r bobl sydd angen gwybod yn unig, trosglwyddo gwybodaeth mewn dulliau priodol (defnyddio amgryptio) a hyfforddi staff.
Pa mor hir rydym yn cadw eich gwybodaeth?
3 blynedd. Byddwn yn rhoi yr opsiwn i chi ddileu eich manylion cyswllt o’r rhestr ar ddiwedd pob cyfnod Cwcis
Cwcis
Pan fyddwch yn ymweld â'r wefan hon am y tro cyntaf efallai byddwch yn cael neges yn dweud bod yna cwcis yn cael eu defnyddio ar y wefan. Efallai na fydd rhannau o'r wefan yn gweithio'n iawn os ydych yn dewis gwrthod cwcis gan y wefan hon. Ni chedwir gwybodaeth sensitif megis cyfeiriadau e-bost yn y cwcis. Maent yn cael eu defnyddio yn rhoi gwybodaeth i ni am ymddygiad defnyddwyr ar ein gwefan - pa rannau sydd o ddiddordeb iddynt a pha dudalennau sy’n cael eu defnyddio amlaf, ayyb.
Gall Cyngor Gwynedd ddiweddaru’r termau hyn ar unrhyw adeg. Dylech ymweld â’r dudalen hon yn achlysurol er mwyn adolygu’r wybodaeth sydd arni i chi fel defnyddiwr.