Teithiau Grŵp a Trefnu Teithiau

Os yn chwilio am ganolfannau gweithgareddau awyr agored, teithiau golygfeydd, lleoliadau taith ysgol, canolfannau astudio maes, canolfannau addysg i oedolion, tirwedd golygfaol a chanolfannau treftadol, cyrsiau byr a gweithdai yna mae digonedd o ddewis yn Eryri, Llŷn ac Arfordir Cambrian.

Mae cyfleon gwych yn ardal Eryri Mynyddoedd a Môr gan gynnwys atyniadau antur, addysgol a theithiau grŵp, dyddiau corfforaethol ac adeiladu tîm, cyrsiau hyfforddi rheoli a theithiau ysgol

I gael gwybodaeth am gynhyrchion grŵp, grwpiau a threfnwyr teithio yn yr ardal, ewch i'r gwefannau isod. Os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano, anfonwch e-bost at twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru neu ffoniwch 01286 679686.

www.visitwales.com/info/travel-trade
www.groupsnorthwales.co.uk
www.visitmidwales.co.uk/grouptravel

Tywysyddion Gorau Cymru - Cymdeithas Tywysyddion Swyddogol Cymru

Aelodau o Gymdeithas Tywysyddion Swyddogol Cymru yw'r tywysyddion swyddogol mae Llywodraeth Cymru yn ei adnabod. Maent i gyd wedi eu hyfforddi yn y mae ac wedi pasio amryw o arholiadau ymarferol a rhai academaidd. Mae llawer ohonynt efo'r bathodyn glas sy'n dangos marc safonol a gydag arbenigaeth a phrofiad o dros 50 mlynedd. Mae eraill gyda chymhwyster rhanbarthol neu sy'n benodol i safle. Maent i gyd yn awyddus i rannu eu gwybodaeth gyda'r bwriad o gyflwyno gwybodaeth mewn modd anffurfiol a hwylus.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r gwasanaethau maent yn ei gynnig ewch i www.walesbestguides.com

Llongau Mordeithio - Eryri

Os ydych yn ymweld a'r ardal ar long mordeithio ac angen rhagor o fanylion am atyniadau a llefydd i ymweld â nhw yna ewch i'r gwefannau isod.

www.croeso.cymru
www.cruiseexcursionswales.com