Gweithio gyda ni
Mae amryw o ffyrdd y gallwch chi weithio gyda ni. Mae yna dudalen ar gyfer Arwyddion Brown a Gwyn a Ystadegau ac Ymchwil Twristiaeth ar gael hefyd.
- Sicrhau bod eich busnes twristiaeth neu ddigwyddiad cysylltiedig yn ymddangos wrth chwilio ein gwefan.
- Ymgysylltu â ni trwy gyfryngau cymdeithasol - yn bennaf Facebook, Twitter ac Instagram.
Yn gyntaf, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredinol
Ychwanegu neu ddiweddaru eich gwybodaeth ar ein gwefan
Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i Lety, Gweithgareddau, Atyniadau, Digwyddiadau, Llefydd Bwyta, Siopau a Chynnyrch Lleol. Bydd angen i ddarparwyr llety gael eu graddio gan naill ai gan Croeso Cymru neu'r AA.
I ychwanegu eich manylion neu ddiweddaru cynnwys presennol, e-bostiwch twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru. Nid oes cost i roi manylion eich busnes neu ddigwyddiad ar wefan Eryri Mynyddoedd a Môr.
Digwyddiadau
Os hoffech chi hyrwyddo digwyddiad ar ein gwefan, yna e-bostiwch y manylion a llun os yn bosibl i twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru.
Trefnwyr Digwyddiadau
Os ydych chi'n gobeithio trefnu digwyddiad yng Ngwynedd, darllenwch Gwybodaeth ar gyfer Trefnwyr Digwyddiadau ar wefan Cyngor Gwynedd. Mae Parc Cenedlaethol Eryri efo manylion i drefnwyr digwyddiadau hefyd.
Cyfryngau Cymdeithasol
Hoffwch ni ar Facebook. Postiwch ddeunydd ar ein wal a gallwn ei rannu oddi yno. Peidiwch â phostio deunydd amheus neu unrhyw beth nad oes gennych chi’r hawlfraint ar ei gyfer a pheidiwch â hyrwyddo’ch busnes yn uniongyrchol na throi’r dudalen yn sbam.
Dilynwch ni ar Twitter. Yna, @neges ni neu defnyddiwch y hashtag #Eryri. Byddwn yn aildrydar y negseuon da.
Dilynwch ni ar Instagram. Tagiwch gynnwys gwych gyda #Eryri #CroesoCymru a byddwn yn ailadrodd y gorau ohonynt.
Cwestiynau Cyffredinol
1. Pam na allaf ddod o hyd i fy eiddo ar www.ymweldageryri.info?
Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio am y math cywir o gynnyrch.
Gallai rhesymau eraill fod;
a) Nid ydych chi ar Gronfa Ddata Eryri Mynyddoedd ac Môr. E-bostiwch twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru
b) Yr ydych newydd gael eich eiddo wedi'i raddio gan Croeso Cymru neu'r AA ac nid yw ein cronfa ddata wedi ei diweddaru gyda'r rhestr gyfredol. E-bostiwch twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru
Cofiwch efallai na fydd eich busnes ar dudalen gyntaf y canlyniadau chwilio felly defnyddiwch y hidlydd i gulhau'r chwiliad.
2. Sut ydw i'n cyflwyno fy musnes yn fwyaf effeithiol ar www.ymweldageryri.info?
Er mwyn manteisio ar hyn, dylech sicrhau eich bod chi'n cwblhau'r holl feysydd yn y ffurflen gais, byddwn yn anfon e-bost atoch a darparu delweddau a fideo o ansawdd da. Efallai yr hoffech hefyd ymgysylltu'n rhagweithiol â'n gwefannau rhwydweithio cymdeithasol fel Twitter / Facebook / Instagram i gael y neges allan bod eich cynnyrch ar gael ac yn annog geiriau i hyrwyddo'ch busnes.
3. Beth ddylwn i ei wneud os yw'r wybodaeth sy'n ymddangos ar www.ymweldageryri.info yn anghywir?
E-bostiwch twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru gan nodi pa wybodaeth sydd angen ei newid.
4. Am ba hyd y mae newidiadau i'm busnes yn cymryd i ymddangos ar www.visitsnowdonia.info?
Caniatewch dau ddiwrnod gwaith i'r wybodaeth gael ei newid.
Cwrs Llysgennad Gwynedd
Mae Cwrs Llysgennad Gwynedd yn rhoi cyfle i chi i ddysgu a gwella eich gwybodaeth am rinweddau unigryw’r sir i egluro beth sy’n gwneud Gwynedd yn sir arbennig na ellir mo’i chymharu ag unrhyw le arall.
Pan fyddwch chi’n Lysgennad Twristiaeth Gwynedd byddwch yn chwarae rôl bwysig yn cyfoethogi profiad cyffredinol ymwelwyr.