Cyrraedd yma a Theithio o Gwmpas
Mae Eryri Mynyddoedd a Môr dim ond ychydig oriau i ffwrdd o'r rhan fwyaf o ganolfannau poblog y DU, gyda chysylltiadau ffordd, rheilffordd a bws ardderchog. Mae oedi yn y meysydd awyr, amserau hedfan cyn cŵn caer a'r agwedd gwasgu pawb i mewn wedi pylu teithio rhyngwladol. Nid oes pryderon tebyg yma - mae Eryri mor agos byddwch yn cyrraedd cyn i chi wybod. Ewch i wefan traffig.cymru i weld beth sy'n digwydd ar ein ffyrdd.
Trên
Trafnidiaeth Cymru
0333 3211 202
Trenau Bach Arbennig Cymru
Profwch brydferthwch cefn gwlad Cymru ar reilffyrdd bychain sydd mor angerddol wrth sicrhau croeso cynnes a phrofiad arbennig. Teithiwch yn hamddenol wrth iddynt eich tywys ar daith fach ymlaciol. Perffaith!
Cledrau Cymru
Hyrwyddo twristiaeth drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru. Annog anturiaethau diogel, cynaliadwy, a golygfaol.
Car
Môr
Irish Ferries
08717 300 400
Stena Line
08447 707 070
Awyr
Maes Awyr Manceinion
08712 710711
Maes Awyr Lerpwl John Lennon
08715 218484
Maes AwyrBirmingham
0871 2220072
Maes Awyr Caernarfon
01286 830800
AC AR ÔL CYRRAEDD...
Meysydd Parcio Cyngor Gwynedd
Mae'n bosib talu am barcio drwy ddefnyddio ap PayByPhone yn holl feysydd parcio Cyngor Gwynedd. Mae'r ap PayByPhone ar gael i'w lawrlwytho o'r App Store neu Google Play Store. Mae'r ap yn hawdd i'w ddefnyddio, ac yn rhoi dewis i chi ymestyn eich sesiwn parcio o bell. Gallwch hefyd ddod o hyd i feysydd parcio cyfagos drwy'r ap, a pinio eich lleoliad er mwyn eich helpu i ddod o hyd i'r car yn nes ymlaen. Mae'n bosib talu am barcio gydag arian parod hefyd.
Meysydd Parcio Parc Cenedlaethol Eryri
App Parcio Parc Cenedlaethol Eryri
Meysydd Parcio Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Llwybrau Cerdded i'r Wyddfa a Gwasanaeth Bws Sherpa
Mae cynllunio eich taith a parcio i gerdded Yr Wyddfa yn bwysig iawn. Gyda dros hanner miliwn o bobl yn ymweld â'r copa bob blwyddyn mae'r meysydd parcio'n gallu bod yn llawn mor fuan a 7 o'r gloch y bore! Mae'r llwybrau llawer distawach yn ystod yr wythnos ac yn gyfle gwych i gerdded gan bod penwythnosau a gwyliau ysgol yn brysur iawn. Mae'r cyfnod o ddiwedd Medi hyd at ddechrau Hydref yn amser gwych i gerdded mynydddoedd Eryri.
Gellir gweld amserlen llawn y gwasanaeth ar wefan Sherpa'r Wyddfa.
Bws Arfordir Llŷn Fflecsi (Gwasanaeth yn dechrau 1 Ebrill, 2023)
Mae fflecsi Llŷn yn gweithredu dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun. Mae’r gwasanaeth yn cynnig ffordd fwy hyblyg o fynd o’ch blaen drwy eich casglu a’ch gollwng yn yr ardal ddiffiniedig, gan eich galluogi i gyrraedd ac o draethau, gwersylloedd, mannau twristaidd a gwneud teithiau lleol eraill.
Mae fflecsi wedi’i gynllunio i ddarparu mwy o symudedd mewn ardaloedd gwledig a helpu pobl i wneud teithiau lleol mewn amgylchedd diogel a hyblyg a reolir.
Bws Ogwen
Gwasanaeth bws trydan dyddiol yn rhedeg o Fethesda i Lyn Ogwen (oni bai am ddyddiau Mercher). Rhagor o fanylion ar dudalen Facebook.
Tocyn 1Bws ar Gyfer Gwasanaethau yn y Gogledd
Pan fydd teithwyr wedi prynu eu tocyn 1Bws gan y gyrrwr ar gyfer taith gyntaf y diwrnod, bydd y tocyn wedyn yn ddilys iddynt deithio ar bob bws arall y byddant am ei ddefnyddio’r diwrnod hwnnw ar draws y gogledd (gweler amodau).
Archwilio Cymru
Mae'r cliw yn y teitl - un tocyn sy'n rhoi mynediad diderfyn i chi i holl brif linellau trên Cymru a bron bob gwasanaeth bws.
Ticed Crwydro
Mae tocynnau 'North Wales Rover' yn caniatáu teithio am un diwrnod ar fysiau a threnau.
Traveline.cymru
Nod Traveline Cymru yw rhoi cymaint o wybodaeth â phosib i chi i'ch helpu i wneud eich siwrnai unrhyw bryd, unrhyw ffordd i unrhyw le. 0800 464 00 00.
Ffordd Cymru
Teulu o dri llwybr cenedlaethol newydd yw Ffordd Cymru, sydd yn eich arwain drwy ganol calon Cymru. Mae Ffordd yr Arfordir yn dilyn glannau’r gorllewin o gwmpas Bae Ceredigion, taith 180 milltir (290km) o hyd rhwng y môr a’r mynydd. Mae Ffordd Cambria yn dilyn asgwrn cefn Cymru am 185 milltir (300km) rhwng Llandudno a Chaerdydd, drwy eangderau gwyllt a dau Barc Cenedlaethol. Mae Ffordd Gogledd Cymru yn 75 milltir (120km) o hyd, ac yn mynd heibio i nifer o gestyll cadarn cyn croesi drosodd i Ynys Môn.