Digwyddiadau yn Eryri

Mae beth sydd 'mlaen yn yr ardal yn mynd yn fwy ac yn fwy bob blwyddyn. Mae rhywbeth ymlaen drwy'r adeg yn Eryri a Llŷn gyda bob math o ddigwyddiadau i lenwi eich diwrnod.

Mae pob math o wyliau yn yr ardal fel rhai cerddoriaeth, bwyd a diod, cerdded, theatr, celf a chrefft, rhai chwaraeon gan gynnwys triathlon, marathon, regata a phencampwriaethau hwylio.

Ymunwch a'r bobl leol yn yr wyliau blynyddol, dawnsiwch yn y strydoedd, bwyta cynnyrch lleol lle cewch brofiad o’n diwylliant a naws am le.

Beth am drefnu eich ymweliad i Eryri o gwmpas rhai o'n digwyddiadau mwyaf fel Zip World Rocks neu Ffair Bwyd a Chrefft Portmeirion. Cadwch olwg ar ein gwefan a'n tudalennau rhwydweithiau cymdeithasol gan fod rhagor o ddigwyddiadau yn cael eu hyrwyddo bob dydd.