Ystadegau ac Ymchwil Twristiaeth

Gwybodaeth am ymchwil, prif ystadegau, data ac adroddiadau. Ewch i ran Lawrlwytho Cysylltiedig i weld neu lawrlwytho'r adroddiadau. Yn ychwanegol mae Cyngor Gwynedd yn darparu rhagor o wybodaeth ar Proffiliau wardiau ac ardaloeddCyfrifiadMynegai Amddifadedd Lluosog Cymru a llawer mwy.

STEAM

Mae STEAM yn broses modelu effaith economaidd twristiaeth sy'n mynd ati i fesur twristiaeth o'r gwaelod i fyny, trwy ei ddefnydd o ddata ochr gyflenwi leol a pherfformiad twristiaeth a chasglu data arolwg ymwelwyr. 

Adroddiad Ymwelwyr Gwynedd

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ymwelwyr yn ardal awdurdod unedol Gwynedd. Cynhaliwyd 667 o gyfweliadau yng Ngham 1 a chynhaliwyd 345 arall yng Ngham 2 gydag ymwelwyr ag ardal sir Gwynedd.

Roedd hyn yn rhan o Arolwg Ymwelwyr Croeso Cymru 2019, a oedd yn cynnwys cyfweliadau mewn dau gam ledled Cymru: Arolwg wyneb yn wyneb oedd Cam 1, ac yna cynhaliwyd cyfweliadau dros y ffôn (ar ôl ymweliadau) yng Ngham 2. Cynhaliwyd 7,683 o gyfweliadau wyneb yn wyneb ledled Cymru yng Ngham 1, a chynhaliwyd 3,909 o gyfweliadau dros y ffôn yng Ngham 2. Drwy’r adroddiad, dygwyd cymariaethau rhwng sampl Gwynedd a sampl Cymru gyfan.

Cafodd y data ei bwysoli ar adeg ei ddadansoddi i adlewyrchu’r gyfran o ymwelwyr undydd o’r DU, ymwelwyr a oedd yn aros dros nos o’r DU ac ymwelwyr tramor yn y rhanbarth. Fe wnaed gwaith maes rhwng 4 Mai a 22 Tachwedd 2019.

Arolwg Stoc Welyau Gwynedd 2018/19

Mae Gwynedd yn cael ei chydnabod fel un o gyrchfannau twristiaeth bwysicaf y DU. Mae’r sir yn
gartref i atyniadau byd enwog, mynyddoedd ac arfordir godidog, Parc Cenedlaethol Eryri, Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE), Ardaloedd o Gadwraeth Arbennig (AGA), treftadaeth
hanesyddol a diwylliant hollol unigryw.

Mae cyfraniad ‘llety twristiaeth’ yn chwarae rôl holl bwysig o ran yr isadeiledd sydd yn cynnal y diwydiant twristiaeth. Mae arolwg STEAM 2019 yn amcangyfrif fod 20.1 miliwn o nosweithiau aros yng Ngwynedd bob blwyddyn. Mae llety twristiaeth yn cynhyrchu a chynyddu gwariant, darparu swyddi, cynyddu arhosiad ac yn cyfrannu at brofiad ymwelwyr. Cynhaliwyd yr adolygiad llawn diwethaf yn 2011 ac eleni am y tro cyntaf cyfrifwyd llety sydd ar gael ar platfform AIR BNB. 

Pwrpas yr arolwg hwn yw cyfrifo nifer y llety twristiaeth sydd ar gael i ymwelwyr yng Ngwynedd. Rhwng Mehefin 2018 a Chwefror 2019 bu i Wasanaeth Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, Cyngor Gwynedd mewn partneriaeth a Chroeso Cymru gynnal ymchwil sirol i'r ddarpariaeth llety ymwelwyr oedd ar gael. Gan ddefnyddio gwybodaeth gan bartneriaid allweddol e.e. cynllunio, trwyddedu, graddio, asiantaethau llety ayyb, ynghyd ac ymchwil dros y we a chyfweliadau ffôn. Mae canlyniadau’r arolwg yn cael ei gyflwyno yn yr adroddiad yma.

Proffil Cyrchfannau Twristiaeth - Arolwg Stoc Welyau 2018/2019

Proffil twristiaeth o'r cyrchfannau canlynol - Aberdaron, Aberdyfi, Abermaw, Abersoch, Bala, Bangor, Beddgelert, Bethesda, Blaenau Ffestiniog, Caernarfon, Cricieth, Dolgellau, Harlech, Llanberis, Nefyn, Porthmadog, Pwllheli a Tywyn.

Ymchwil i’r Sefyllfa Cartrefi Modur yng Ngwynedd (Medi 2021)

Nid yw’r twf diweddar ym mherchnogaeth cartrefi modur yn y DU wedi mynd rhagddi heb sylw nac effaith yma
yng Ngwynedd wrth i ymweliadau cartrefi modur ddod yn fwyfwy amlwg yn ein trefi, pentrefi ân ardaloedd
gwledig. 

Mae’r adroddiad yn edrych ar:

• Y sefyllfa leol a darpariaeth yng Ngwynedd
• Y sefyllfa ar ddarpariaeth gyfredol yn y DU
• Y sefyllfa ar ddarpariaeth yn rhyngwladol mewn gwledydd eraill
• Edrych ar anghenion a thueddiadau perchnogion cartrefi modur er mwyn canfod barn, amlder a sut
mae perchnogion yn defnyddio eu cerbydau a’r math o lefydd maent yn aros.
• Barn trigolion a chymunedau Gwynedd.
• Canfyddiadau a syniadau o ran gwella rheolaeth o gartrefi modur yng Ngwynedd

Llety cymar wrth gymar Gwynedd: Adolygiad 2021

Mae’r adroddiad hwn yn adolygu data 2021 y farchnad llety gymar wrth gymar ar gyfer Cyngor 
Gwynedd, gan AirDNA. Mae’r cwmni hwn yn arbenigo mewn llunio adroddiadau ar y farchnad i 
Airbnb a Vrbo (Home Away gynt), gan roi data misol ar amrywiaeth o amnewidion, gan gynnwys yr 
ystafelloedd a’r lleoedd a restrir, archebion, deiliadaeth a chyfraddau dyddiol cyfartalog.

Am wybodaeth twristiaeth ystadegol hanesyddol a chyfoes cysylltwch â twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru