Gweithgareddau ac Antur Awyr Agored

Eryri Mynyddoedd a Môr...ffiw, mae’n andros o flinedig. Ond y nefoedd fawr, mae’n gyffrous.  Ydych chi eisiau abseilio?  Dim problem, dim ond dewis clogwyn sydd angen ei wneud. Beth am feicio?  Oes, mae gennym gyfleusterau beicio mynydd gyda’r gorau yn y byd, a llwybrau heb draffig, wedi’u harwyddo, ar y ffordd hefyd.  Canŵio, coasteering, dringo, canyoning, canolfannau gweithgareddau lu...mae digon o ddewis i’w gael.

Wedi’r cyfan, dyma brifddinas gweithgareddau’r DU.