Ffordd Cymru
Teulu o dri llwybr yw Ffordd Cymru – Ffordd Cambria, Ffordd yr Arfordir a Ffordd y Gogledd – sy’n eich arwain ar hyd yr arfordir, ar draws gwlad o gestyll a thrwy ein cefn gwlad mynyddig.
Mae Ffordd Cambria'n daith ar hyd asgwrn cefn mynyddig Cymru am 185 milltir (300 cilomedr) rhwng Llandudno a Chaerdydd, drwy Barciau Cenedlaethol a thros Fynyddoedd Cambria. Mae Ffordd yr Arfordir yn mynd ar hyd yr arfordir gorllewinol o amgylch Bae Ceredigion – taith ffordd 180 milltir (290 cilomedr) rhwng môr a mynydd. Mae Ffordd y Gogledd yn dilyn 75 milltir (120 cilomedr) heibio i gestyll cadarn i Ynys Môn.
Rydym hefyd wedi awgrymu dolenni ac amdeithiau fel y gallwch fynd yn ‘igam ogam’ a chreu eich taith Ffordd Cymru eich hun.
Ffordd y Gogledd
Mae Ffordd y Gogledd yn dilyn llwybr hen ffordd fasnach am 75 milltir (120km) ar hyd arfordir y gogledd a throsodd i Ynys Môn. Yn ogystal â threfi gwyliau glan y môr a chestyll mawreddog sydd ar hyd y daith, mae Ffordd y Gogledd yn cynnig cyfle i ddarganfod cefn gwlad godidog Gogledd Cymru. Gallwch fynd ar antur trwy Ddyffrynnoedd Clwyd a Chonwy, mynyddoedd Eryri, y Fenai, ac ynys fwyaf Cymru sef Ynys Môn. Mae’r mapiau hyn yn cynnwys cylchdeithiau a llwybrau lleol oddi ar Ffordd y Gogledd, fel man cychwyn ar gyfer profi tirwedd, harddwch a threftadaeth gyfoethog y rhanbarth - gyda digon o lefydd i fwyta, aros a mwynhau ar hyd y ffordd. Cliciwch yma i lawrlwytho PDF Llwybr y Dyffrynnoedd Llechi.
Ewch i grwydro ar hyd Ffordd yr Arfordir
Mae Ffordd yr Arfordir yn ymlwybro'n ddi-dor ar hyd Bae Ceredigion drwy siroedd Gwynedd, Ceredigion a Sir Benfro. Mae’n daith glan y môr ysblennydd gyda digon o uchafbwyntiau i'w gweld ar y ffordd. Dyma siwrne arfordirol epig sy'n ymestyn o Aberdaron ym mhen draw Llŷn yn y gogledd i ddinas fechan Tŷ Ddewi yn y de ac yn ystod y daith byddwch yn mynd drwy Arfordir Treftadaeth gwarchodedig, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a dau Barc Cenedlaethol. Ar hyd y ffordd, byddwch yn siŵr o weld tirwedd nodedig Gymreig o draethau euraidd, pentrefi harbwr prydferth, aberoedd ardderchog, cilfachau cudd a chestyll cadarn. Mae cymaint i'w weld ar hyd Ffordd yr Arfordir, mae'n anodd gwybod lle i ddechrau. I'ch rhoi ar y trywydd iawn, rydym wedi creu cyfres o deithlenni gan gynnwys taith Cestyll, Diwylliant a Threftadaeth.