Traethau a'r Arfordir

Mae Eryri Mynyddoedd a Môr yn cynnwys tywod, môr, traethau a baeau yn ogystal â chopaon creigiog, bryniau a choedwigoedd. Mae gennym ni 200 milltir o arfordir a dros 35 o draethau, yn ogystal ag un o’r rhannau mwyaf ysblennydd o lwybr Arfordir Cymru, y cyntaf o’i fath yn y byd a dathlodd ei benblwydd yn 10 oed yn 2022.  

O gofio pa mor amlwg yw’n mynyddoedd, does dim syndod bod ein harfordir weithiau’n gallu peidio cael y sylw mae’n ei haeddu. Ond cymrwch amser i ddarganfod ac fe welwch lefydd hudolus  fel Porthor, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Whistling Sands, ym Mhenrhyn Llyˆn. Mae’n rhyfeddod daearegol lle mae tywod y traeth yn gwichian o dan eich traed, rywbeth sy’n digwydd mewn dim ond llond llaw o lefydd yn yr holl fyd.

Am beth mae Mochras ger Harlech yn enwog? Cliw i chi yw mai ‘Shell Island’ yw’r enw yn Saesneg. Am flas o’r Sahara ewch i draeth diddiwedd y Greigddu ger Porthmadog , traeth Abermaw neu i Ddinas Dinlle ger Caernarfon. Ac os mai pentrefi glan môr bychan deniadol sy’n apelio atoch, byddwch yn caru llefydd fel Aberdyfi ac Abersoch.

Gofalu am ein hunain wrth gynllunio o flaen llaw

  • Paratowch a byddwch gyda chynllun - edrychwch ar ragolygon tywydd, amseroedd llanw a darllenwch arwyddion a rhybuddion lleol

  • Cadwch lygaid gofalus ar eich teulu  - ar y traeth ac yn y dŵr

  • Peidiwch â gadael i aelod o’ch teulu nofio neu ymdrochi ar ben eu hunain

  • Peidiwch â defnyddio offer enchwythu heb fod cortyn diogelwch wedi ei angori i’r lan. Gwisgwch siaced arnofio os na ydych yn nofiwr cryf

  • Peidiwch â nofio neu fentro i’r môr ble mae baner goch neu unrhyw arwydd arall yn cynghori yn erbyn nofio yn cael ei arddangos. Cymerwch sylw bob amser o arwyddion a rhybuddion lleol.

  • Mewn argyfwng ffoniwch 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau

Dyma’r traethau, yn mynd o’r gogledd i’r de.

Penmaenmawr (Conwy)
Traeth hir, tywodlyd gyda chlwb hwylio a phromenâd deniadol

Llanfairfechan (Conwy)
Pentref glan môr, addas i’r teulu gyda thraeth eang tywodlyd. Gerllaw mae Gwarchodfa Natur Traeth Lafan  yn lle ardderchog i wylio adar.

Traethau Gwynedd

Dinas Dinlle ger Caernarfon
Traeth helaeth gyda golygfeydd godidog. Ardderchog i gerddwyr, hwylfyrddwyr, a barcutwyr.

Nefyn
Dwy filltir o draethau crymion, wedi’u naddu o’r arfordir fel pedolau perffaith. Mae pentref rhyfeddol dlws Porthdinllaen sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn lle ardderchog.

Porthor, ger Aberdaron
Lle unigryw, gyda thywod sy’n gwichian dan draed.

Aberdaron
Traeth llydan tywodlyd ym mhendraw Llŷn, ym mynwes dau benrhyn trawiadol.

Abersoch
Un o’n cyrchfannau mwyaf poblogaidd. Mae’n boblogaidd iawn gyda theuluoedd, ac i’r rhai sy’n mwynhau chwaraeon dŵr, siopa a gwylio pobl.

Marian y De, Pwllheli
Tair milltir crymanog o dywod a graean, â thwyni tywod y tu ôl iddo.

Morfa Bychan (Black Rock Sands)
Mae tywod euraid, pyllau môr, a thwyni’r cawr yma o draeth yn ei wneud yn lle poblogaidd i deuluoedd

Harlech
Traeth tywodlyd dilyffethair, gyda thwyni y tu ôl iddo, dan oruchwyliaeth y castell.

Mochras, Llanbedr
Tywod, twyni ac wrth gwrs, cregyn.

Bermo/Abermaw
Tref fywiog yw hon sy’n adnabyddus am ei thraeth tywodlyd a golygfeydd tuag at y mynyddoedd ac aber Afon Mawddach.

Tywyn
Traeth syrffio poblogaidd gyda bron i bum milltir o lan môr. Mae hefyd yn lle da i weld dolffiniaid a llamhidyddion.

Aberdyfi
Mewn llecyn trawiadol ger aber Afon Dyfi, mae’r traeth tywodlyd hwn yn lle ardderchog i hwylfyrddio a gwylio bywyd gwyllt

Slipffyrdd

Am wybodaeth am slipffyrdd, lansio cychod a marinas, cysylltwch â’r Uned Forwrol ar 01758 704066. Am wybodaeth am harbyrau neu wybodaeth forwrol yn ardal Conwy, ffoniwch 01492 596253.     

Mynd â’ch ci am dro ar ein traethau

Mae dros 35 o draethau ar ein 200 milltir o arfordir, sy’n cynnwys Pen Llŷn ac Arfordir y Cambrian. Mae mynediad i gŵn gerdded ar hyd y rhan fwyaf ohonynt. Mae rhannau penodol o rai traethau yn cynnwys Parthau Gwahardd Cŵn, er mwyn rheoli eu defnydd a’u cadw’n lân ac yn ddiogel. Am y wybodaeth ddiweddaraf cysylltwch a 01758 704066 neu ewch i wefan Cyngor Gwynedd.

Rhifau Cyswllt Defnyddiol

Canolfan Gyswllt Cyngor Gwynedd
01766 771000

Harbwr Feistri
Ewch i wefan Cyngor Gwynedd i gael y manylion diweddaraf.

Marinas
Caernarfon, Doc Fictoria
01286 672118
Hafan, Pwllheli
01758 701219

Y Gwasanaeth Morwrol
01758 704066
www.gwynedd.llyw.cymru/morwrol

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
01492 860123>

Cyfoeth Naturiol Cymru
0300 0653000

Canolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol
Plas Menai, Caernarfon
01248 670964

Gwybodaeth Surffio
wwwbritsurf.co.uk/

Amseroedd Llanw
www.tidetimes.org.uk