Lonydd Glas Gwynedd

Chwilio am le diogel, di-draffig i gerdded neu feicio? Eisiau awyr iach neu ddianc o sŵn y byd o’ch cwmpas? Pam na ewch am dro ar hyd eich Lonydd Glas? Wedi eu darparu yn arbennig ar gyfer cerdded a beicio, fe geir tros 80 cilomedr (50 milltir) o’r llwybrau pwrpasol yma yng Ngwynedd, lle cewch ymlacio ymysg natur ac anghofio am broblemau’r byd tu allan. Teithiau gwledig a thawel yw’r rhain a sefydlwyd yn bennaf ar hyd hen reilffyrdd yng nghanol gwyrddni cefn gwlad Gwynedd; ardal yn unigryw o ran ei thirlun, ei diwylliant a’i phobl, ac yn gryf yn ei Chymraeg.

Lôn Las Ogwen

Dyffryn yr Afon Cegin yw un o fannau tawelaf yr ardal, lle’n aml nid oes dim ond sŵn yr afon. Gelwir y rhan hon o’r llwybr sy’n rhedeg drwy’r dyffryn cysgodol rhwng Porth Penrhyn a phentref Glasinfryn yn Lôn Bach. Adeiladwyd Lôn Bach yn yr 1980au ar gyn reilffordd gul Stad y Penrhyn, a sefydlwyd i gludo llechi o chwarel Bethesda i’w hallforio o Borth Penrhyn. Erbyn heddiw, mae Lôn Bach yn rhan o Lôn Las Ogwen, sy’n ymlusgo’n ddiog ar ei thaith tros y bont odidog ger Glasinfryn i Dregarth, a heibio Chwarel Penrhyn i Nant Ffrancon. Nid yw cynllun Lôn Las Ogwen wedi ei gwblhau, a gobeithiwn gysylltu’r daith â Bethesda.

Lôn Las Menai

Mae Lôn Las Menai yn llwybr 6.5km (4.5milltir) o hyd sy’n rhedeg rhwng tref hanesyddol Caernarfon a phentref Y Felinheli. O Gaernarfon mae’r llwybr wyneb tarmac yn dilyn y cyn reilffordd gyfochrog a’r afon Menai , o’r llwybr cewch fwynhau golygfeydd ar draws i Ynys Môn. Cyn cyrraedd Y Felinheli byddwch yn mynd heibio’n agos i’r Ganolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol ym Mhlas Menai. Yn Y Felinheli rhaid dilyn y ffordd sy’n arwain i mewn i’r pentref am ychydig cyn mynd oddi ar y ffordd a heibio i adeilad cyn stesion Y Felinheli. Mae Lôn Las Menai yn rhan o Lôn Las Cymru, taith rhif 8 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Lôn Las Peris

O bentref poblogaidd Llanberis, yr adwy i Eryri, gallwch ddilyn Lôn Las Peris ar hyd lan cysgodol Llyn Padarn. Wedi’r twnnel, ac ar ben y daith mae’r llwybr yn cysylltu i’r rhwydwaith ffyrdd cyhoeddus lleol, o ble gallwch feicio neu gerdded heibio Cwm y Glo a Llanrug, i lawr dyffryn yr Afon Seiont i gyfeiriad tref brysur Caernarfon. Pam na archwiliwch gefn gwlad hanesyddol ardal y lechen ymhellach drwy ddilyn ffyrdd gwledig i ymweld â phentrefi Deiniolen a Phenisarwaun, neu feicio i fyny’r dyffryn i gyfeiriad Nant Peris? 

Lôn Gwyrfai

Mae Lôn Gwyrfai yn daith ar hyd ffyrdd tawel sy’n cysylltu Caernarfon a Waunfawr. Cychwynnir y daith ger Pont Seiont,Caernarfon gan ymlwybro heibio Plas Glanrafon ag yna ar hyd traciau a lonydd sy’n dyddio’n ôl i ddyddiau’r Rhufeiniaid hyd nes cyrraedd pentref Waunfawr.

Lôn Eifion

Byddai rhai yn dweud mai Lôn Eifion yw’r daith fwyaf adnabyddus ar y rhwydwaith. Yn sicr, mae’n ddigon hawdd gweld pam fod y llwybr yn boblogaidd, gyda’i lecynnau tawel cysgodol, a’i olygfeydd godidog. Pam na ewch i weld y panorama o’ch cwmpas o Ben Llŷn, Bae Caernarfon, Ynys Môn ac Eryri? Dilynwch Lôn Eifion trwy goridorau gwyrdd o goed a phlanhigion cynhenid sydd yn ymestyn rhwng tref brysur Caernarfon a phentref gwledig Bryncir i’r de. Mae gan y cyfan o Lôn Eifion wyneb tarmac ac mae’n rhan o Lôn Las Cymru, taith rhif 8 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Llwybr Trawsfynydd  

Mae’r llwybr yn dilyn glan ddwyreiniol Llyn Trawsfynydd, drwy goedlannau a thir amaethyddol agored. Adeiladwyd y llwybr yn bennaf ar dir Pwerdy Ynni Niwclear Trawsfynydd, sydd bellach yn cael ei ddadgomisiynu. Yng nghyffiniau’r Pwerdy a’r ganolfan ymwelwyr mae’r llwybr yn croesi ffyrdd a ddefnyddir gan gerbydau. Gellir defnyddio llwybr cyfochrog a’r A470 er mwyn beicio i bentref Trawsfynydd.

Llwybr Mawddach 

Yn ymlusgo’n ddiog ar hyd cyn reilffordd ger aber y Fawddach, mae Llwybr Mawddach, sy’n berchen i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac a reolir ganddo, yn rhedeg o Abermaw i Ddolgellau. Mae gan y llwybr wyneb o lwch cywasgedig, gyda’r rhan o Lyn Penmaen i Ddolgellau wedi’i addasu’n arbennig ar gyfer pobl anabl. Wrth gerdded neu feicio ar hyd y llwybr, cewch olygfeydd gwych o’r ardal, yn ogystal â’r aber a phont fawreddog Abermaw. Mae yma hefyd amrywiaeth cyfoethog o gynefinoedd gwlyptir a choetir, er enghraifft Coedydd Abergwynant, sy’n gyfochrog â’r llwybr ac yn berchen i’r Awdurdod. Mae Llwybr Mawddach yn rhan o Lôn Las Cymru, taith rhif 8 ar y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.