Teithiau hawdd - llwybrau seiclo yn Eryri i'r teulu cyfan

Mae Eryri Mynyddoedd a Môr yn adnabyddus am ddenu seiclwyr sydd o ddifrif. Ond does dim rhaid efelychu Geraint Thomas i fwynhau reidio yma. Ar draws y rhanbarth, mae dewis eang o lwybrau addas i'r teulu, sy'n ddi-draffig i raddau helaeth, gan roi cyfle i bawb archwilio ar ddwy olwyn.

Mae'r holl deithiau yn hawdd eu cyrraedd a gellir canfod mannau parcio ar ddechrau pob taith neu'n agos ati. Os byddai'n well gennych ddefnyddio cludiant cyhoeddus, ewch i Traveline Cymru i ganfod tocynnau ac amserlenni ar gyfer gwasanaethau bws a thrên lleol.

Coed y Brenin – Yr Afon 

Ble? Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, ger Dolgellau 
Pa mor hir? 6.7 milltir/10.9km 
Sut reid ydi hi? Parc Coedwig Coed y Brenin, ger Cader Idris yn rhan ddeheuol Eryri, yw canolfan feicio mynydd bwrpasol gyntaf Prydain, a Mecca ar gyfer reidwyr sy'n beicio oddi ar y ffordd. Er bod llawer o'i llwybrau wedi'u hanelu at feicwyr mwy profiadol, mae yna hefyd rai opsiynau tynerach. Gan droelli ar hyd llwybrau coedwig, mae Yr Afon yn llwybr eithaf hawdd gydag ychydig o rannau mwy garw, un neu ddwy o ddringfeydd byr ac un ddisgynfa serth. Y rhan fwyaf o'r amser byddwch yn gallu ymlacio a mwynhau'r golygfeydd, sy'n cynnwys rhaeadrau sy'n cwympo i afonydd Gain a Mawddach a hen Gloddfa Aur Gwynfynydd.

Coed-y-Brenin

Coed y Brenin – MinorTaur 

Ble? Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, ger Dolgellau 
Pa mor hir? 8 milltir/13km 
Sut reid ydi hi? Yn cynnwys pedair dolen sy'n cynyddu o ran hyd ac anhawster (ac y gellir mynd i'r afael â nhw yn eu cyfanrwydd neu'n unigol), MinorTaur yw'r cyflwyniad delfrydol i feicio mynydd. Dewiswch lwybr i weddu i'ch sgiliau ac fe welwch gorneli banciog, twmpathau, pen byrddau a hyd yn oed ambell naid, gydag ychydig o ddringfeydd byr a disgynfeydd cyflym i'w tramwyo.

Lôn Las Peris 

Ble? Ar hyd glannau Llyn Padarn yn Llanberis 
Pa mor hir? 1 filltir/1.5km 
Sut reid ydi hi? Mae'r tro hawdd hwn ar lan y llyn yn addas ar gyfer reidwyr o bob gallu, gan ddarparu golygfeydd ysblennydd o Lyn Padarn a'r chwareli llechi enfawr sydd wedi'u cerfio o ochr y mynydd o'i gwmpas - rhan o Dirwedd Llechi hanesyddol Gogledd Orllewin Cymru a ddynodwyd yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn ddiweddar. Ar ôl i chi orffen reidio, mae yna lawer mwy i'w weld ym mhentref Llanberis ar ddechrau'r llwybr. Dewiswch o atyniadau fel Rheilffordd yr Wyddfa, Amgueddfa Lechi Cymru, Rheilffordd Llyn Padarn a Chastell dramatig Dolbadarn (caer Gymreig a adeiladwyd gan Dywysogion brodorol Gwynedd ar ddiwedd y 12fed ganrif neu ddechrau'r 13eg ganrif).  

Lôn Las Ogwen 

Ble? Porth Penrhyn, Bangor trwy Nant Ffrancon i Lyn Ogwen 
Pa mor hir? 11 milltir/17.3km 
Sut reid ydi hi? Wrth ddringo o'r arfordir ym Mangor i fynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri, mae Lôn Las Ogwen yn dilyn llwybr rheilffordd gul a adeiladwyd yn y 19eg ganrif i gludo llechi. Fe welwch ddigon i'ch atgoffa o'r diwydiant hwn, a oedd mor rymus ar un adeg, wrth i chi reidio, gan gynnwys y chwareli ym Methesda (sydd bellach yn gartref i faes chwarae antur anferth Zip World) a Chastell ffug-Gothig Penrhyn, wedi'i adeiladu gydag elw o'r fasnach lechi. Byddwch hefyd yn teithio trwy wylltiroedd cyfnewidiol Bwlch Nant Ffrancon, un o dirweddau mwyaf gwyllt Eryri, cyn dod at yr ychydig filltiroedd olaf ar ffyrdd tawel gyda golygfeydd dramatig o fynyddoedd y Carneddau a'r Glyderau uwchben Llyn Ogwen, sy'n llyn rhewlifol.

Cycling on Lôn Las Ogwen

Lôn Eifion 

Ble? Caernarfon i Fryncir 
Pa mor hir? 12 milltir/19.3km 
Sut reid ydi hi? Gan gychwyn yn agos at dyrau tra uchel Castell Caernarfon, mae Lôn Eifion, sy'n gwbl ddi-draffig, yn dilyn llwybr Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri am lawer o'i hyd. Gan raddol ddringo 500 troedfedd/152m i'w phwynt uchaf, mae'n darparu golygfeydd syfrdanol panoramig 360 gradd o'r tirweddau cyfagos - Ardal o Harddwch Naturiol arw a rhamantus Penrhyn Llŷn i'r de-orllewin, Bae Caernarfon ac Ynys Môn i'r gorllewin a'r gogledd a chopaon Eryri i'r dwyrain. Gall y golygfeydd gipio eich anadl, felly fe fyddwch yn ddiolchgar am y ddisgynfa raddol i Fryncir tuag at ddiwedd eich taith.

Lôn Las Menai 

Ble? Caernarfon i'r Felinheli
Pa mor hir? 4 milltir/6.5km
Sut reid ydi hi? Gan ddechrau ger Castell mawreddog Caernarfon (Safle Treftadaeth y Byd ac un o'r enghreifftiau gorau o bensaernïaeth ganoloesol sydd wedi goroesi), mae Lôn Las Menai yn olrhain llwybr llyfn a hawdd ar hyd glannau'r Fenai. Gan ddilyn yr hen reilffordd a adeiladwyd i gludo llechi i'r Felinheli (a elwid gynt yn Port Dinorwic yn Saesneg), mae'n gwneud ei ffordd trwy goetir cysgodol, gyda digonedd o olygfeydd hyfryd ar draws y dŵr i Ynys Môn ar yr ochr arall.

Castell Caernarfon

Lôn Gwyrfai 

Ble? Caernarfon i'r Waunfawr
Pa mor hir? 4 milltir/6.5km
Sut reid ydi hi? Taith fer ac ysgafn ar hyd lonydd a thraciau hynafol; adeiladwyd llawer ohonynt gan y Rhufeiniaid pan oedd y rhan hon o Gymru yn eu meddiant. Cyn i chi adael Caernarfon, bydd cyfle i chi edmygu gwaith goresgynwyr mwy diweddar yng Nghastell Caernarfon (a adeiladwyd gan frenin Lloegr, Edward I, yn y 13eg ganrif fel datganiad o rym yn ei ymgyrch yn erbyn Cymru). 

Llwybr Mawddach 

Ble? Abermaw i Ddolgellau 
Pa mor hir? 9 milltir/15km 
Sut reid ydi hi? Yn un o'r reidiau beic gyda'r golygfeydd mwyaf godidog ym Mhrydain, mae Llwybr Mawddach yn cychwyn yng nghysgod Dinas Oleu - pentir prydferth, llawn eithin a ddaeth yn eiddo cyntaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1895 - cyn taith fythgofiadwy dros Bont y Bermo sy'n dyddio o'r 19eg ganrif (sy'n dal i gludo trenau ochr yn ochr â seiclwyr a cherddwyr). Yn rhychwantu ceg Afon Mawddach, mae'n darparu golygfeydd trawiadol o'r aber - a chyfle i weld rhywfaint o'r bywyd gwyllt toreithiog sy'n cartrefu yno. Yna mae'r llwybr yn olrhain Afon Mawddach, gyda'r dŵr ar un ochr a'r coetir yn codi i fynydd aruthrol Cader Idris ar yr ochr arall, wrth ddynesu at Dolgellau.

Penmaenpool

 

Llwybr Trawsfynydd 

Ble? Gellilydan i lannau Llyn Trawsfynydd 
Pa mor hir? 3 milltir/4.8km 
Sut reid ydi hi? Yn cychwyn o bentref bychan Gellilydan, byddwch yn dilyn llwybr ceffylau i fyny tuag at ddyfroedd Llyn Trawsfynydd a'i orsaf ynni niwclear anferth. Er nad yw bellach yn cynhyrchu ynni ac wrthi'n cael ei dadgomisiynu, mae ei thyrau concrid monolithig yn parhau i fod yn olygfa drawiadol yn y lleoliad naturiol hwn. Yr un mor drawiadol, mae'r golygfeydd o fynyddoedd creigiog y Rhinogydd, un o lecynnau mwyaf gwyllt Parc Cenedlaethol Eryri, yn codi i fyny y tu ôl i'r llyn. Wrth i'r llwybr ddolennu o amgylch glannau Llyn Trawsfynydd, byddwch yn cyrraedd y ganolfan ymwelwyr a'r caffi ar lan y dŵr, y lle perffaith i aros am ysbaid i adfywio.

I weld mwy am seiclo hamddenol sy'n addas i'r teulu yn Eryri Mynyddoedd a Môr, ewch yma