Blue Sky Café
Mae Blue Sky yn gaffi hynod sydd wedi'i leoli ychydig oddi ar Stryd Fawr brysur Bangor. Mae pensaernïaeth fewnol syfrdanol a bwydlen liwgar yn cyfuno i greu'r lleoliad delfrydol ar gyfer mwynhau bwyd a diod. Mae yna fwydlen dymhorol ac amrywiol, gyda digon o opsiynau llysieuol diddorol. Maent hefyd wedi'u trwyddedu'n llawn ac mae ganddynt ddetholiad da o winoedd, cwrw lleol a lager.