Zip World Velocity 2
Bron iawn dros nos mae Zip World wedi dod yn brif gyrchfan weiren zip y byd, gyda dau atyniad newydd – Zip World Velocity ym Methesda a Zip World Titan ym Mlaenau Ffestiniog. Yn y cyntaf byddwch yn hedfan (wel, bron iawn) ar gyflymder o hyd at 100 milltir yr awr ar weiren zip hiraf Ewrop. Mae Titan yn torri pob record - sef ardal zip fwyaf y byd, gyda dros bum milltir o lwybrau yn yr awyr. Be’ wyt ti’n aros amdano? Pam lai? Os ydych yn chwilio am ragor o anturiaethau yn yr entrychion, rhaid i chi ymweld â Zip World Forest ym Metws y Coed, lle gewch brofi llawer mwy o anturiaethau wedi'w darparu gan yr un cwmni, gyda Zip Safari, Plummet, Skyride, swing pum sedd uchaf Ewrop, a'r Forest Coaster newydd.
Gwobrau
Mwynderau
- Archebu ar-lein ar gael