Bythynnod Gwyliau Hunanarlwyo Coedmor
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
Bythynnod rhamantaidd, un ystafell wely wedi'u lleoli yn, ac o gwmpas, tref glan môr hardd Abermaw wrth droed mynyddoedd Cader Idris, gyda golygfeydd godidog o aber Afon Mawddach. Mae tref harbwr fach boblogaidd Abermaw wedi'i thrwytho mewn hanes ac yn enwog am ei phont eiconig. O fewn cyrraedd hawdd i lawer o atyniadau Gogledd Cymru, y cestyll niferus, y safleoedd hanesyddol, gerddi a'r traethau tywodlyd, Bythynnod Coedmor yw'r ganolfan ddelfrydol ar gyfer teithio Eryri. Gyda theithiau cerdded, lonydd tawel i feicwyr a golygfeydd godidog ar garreg y drws, mae rhywbeth at ddant pawb.
Mwynderau
- Mannau ar gael ar gyfer ysmygwyr
- En-Suite
- Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
- Arhosfan bws gerllaw
- Dillad gwely ar gael
- Dim Ysmygu
- Gorsaf tren gerllaw
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Derbynnir cardiau credyd
- Llofft llawr gwaelod
- Parcio
- Cawod
- WiFi am ddim
- Traeth gerllaw
- Beicio mynydd gerllaw
- Llwybr cerdded gerllaw
- Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw