Traeth Abermaw

Abermaw, Gwynedd, LL42 1NF

Yn Abermaw y dewch ar draws gyrchfan glan y môr fwyaf poblogaidd Eryri. Yn yr haf, mae ei thraeth eang, tywodlyd yn fagnet i ymwelwyr, er hyn ceir digonedd o le personol gan ei fod mor helaeth.  Ceir hefyd, harbwr darluniadol,  yn eistedd wrth aber Mawddach - lle cewch bysgota, tripiau môr ac aber. Mae Abermaw wedi ei leoli yn berffaith ar gyfer chwaraeon dŵr - ceir mynedfa hawdd i’r môr diolch i’r llithrfa ar y traeth, rhaid cofio fod parth gwaharddiad cychod pŵer yma er mwyn ceisio gwarchod nofwyr, ac mae hefyd gyfyngiadau ar gŵn  Fel cyrchfan glan y môr llawn mae gan Abermaw yr holl gyfleusterau - megis siopau, tai bwyta, parcio da, difyrrwch ac adloniant. Ceir mynediad anabl da ar y traeth hefyd, a chaiff yr ardal ei gwasanaethu yn dda gan  gludiant cyhoeddus.

Rhybudd Diogelwch Traeth Abermaw

Dilynwch ganllawiau Mentra’n Gall a’r RNLI i gael mwyniant diogel o’n arfordir. 

Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon canlynol ar draeth Abermaw. Edrychwch am yr arwyddion coch sy’n cynnwys gwybodaeth perthnasol am y rhan hynny o’r traeth, gan gynnwys pryd a lle caniateir cŵn.

  • Byddwch yn wyliadwrus o gerrynt cryf
  • Cymerwch ofal gydag offer enchwythedig mewn gwynt cryf
  • Peidiwch a cael eich torri ffwrdd ar y banciau tywod
  • Byddwch yn wyliadwrus o gychod pŵer
  • Byddwch yn ofalus o ddŵr dwfn
  • Peidiwch a tyllu na thyrchu yn y twyni tywod
  • Dim nofio yn ardal yr harbwr

Mewn argyfwng galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau

Diogelwch Traeth Abermaw Barmouth Beach Safety

Mwynderau

  • Parcio
  • Toiled
  • Mynedfa i’r Anabl
  • Yn agos i gludiant cyhoeddus