Traeth Bennar
Dyffryn Ardudwy, Gwynedd, LL44 2HD
Ceir traeth man, tywodlyd Bennar ei gefnu gan ambell i dwyni tywod. Mae’r twyni tywod yma o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, gan fod y twyni yn newid yn barhaus ac felly yn newid eu hamgylchedd. Wrth ymlacio ar y traeth daw'r golygfeydd yn fyw, a cheir golygfeydd godidog o arfordir Gwynedd, tua’r gogledd a’r de. Mae’r amodau yn wych yma ar gyfer syrffio, dywedwyd mai yma y ceir y tonnau fwyaf cyson yng Ngwynedd, ble ceir tonnau cyson. Daw eraill i Bennar ar gyfer y pysgod, ble mae modd darganfod bas, lleden, ci môr a lleden frech. Yn uwch i fyny, milltir i ogledd y traeth ceir man arbennig ar gyfer noethlymunwyr. Yn yr un man, ceir man dynodedig ei gadw ar gyfer nofio yn noeth, mae’r mannau hyn wedi eu marcio yn glir. Mae mynediad i’r traeth wedi ei ddynodi yn glir ar hyd y ffyrdd. Mae cyfyngiadau ar gŵn mewn grym.
Rhybudd Diogelwch Traeth Bennar
Dilynwch ganllawiau Mentra’n Gall a’r RNLI i gael mwyniant diogel o’n arfordir.
Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon canlynol ar draeth Bennar.
- Byddwch yn wyliadwrus o gerrynt cryf
- Gofal - tonnau mawr yn torri
- Cymerwch ofal gydag offer enchwythedig mewn gwynt cryf
- Byddwch yn wyliadwrus o gychod pŵer
- Peidiwch a tyllu na thyrchu yn y twyni tywod
- Cadwch blant dan oruchwyliaeth
Mewn argyfwng galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau
Mwynderau
- Parcio
- Toiled