Fairbourne Railway
Dyma’r rheilffordd lein gul leiaf yng Nghymru, gyda thrac sy’n mesur dim ond 12¼ modfedd. Felly mae’n fychan a thwt – ond mae’n mynd â chi ar daith drwy’r twyni tywod ac yn eich arwain at olygfeydd trawiadol o Aber Mawddach a’r mynyddoedd yn y cefndir. Mae’r daith ei hun yn ddigon, ond mae yna fwy. Mae’n cysylltu â’r fferi sy’n teithio ar draws y Mawddach i Abermaw.
Gwobrau
Mwynderau
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Caffi/Bwyty ar y safle
- Llwybr beicio gerllaw