Castell y Bere

Llanfihangel-y-Pennant, Tywyn, Gwynedd, LL36 9TP

Retail Phone Number Phone Number icon for Snowdonia retail page 01443 336000

Retail Screen Screen icon for Snowdonia retail page https://cadw.llyw.cymru/ymweld/lleoedd-i-ymweld/castell-y-bere

Olion arbennig castell brodorol Cymreig, wedi ei ddechrau mae'n debyg gan y Tywysog Llywelyn ab Iorwerth ('Llywelyn Fawr') tua 1221. Roedd Castell y Bere yn leoliad anghysbell yng nghyffindir ddeheuol Llywelyn, ond roedd e’n safle hollbwysig ar gyfer amddiffyniad. Byddai’n amddiffyn ardal y gwartheg a’r famwlad yng Ngwynedd, ac roedd e’n tra-arglwyddiaethu ar arglwyddiaeth Meirionydd. Llywelyn ab Iorwerth oedd y tywysog; ond y gwaretheg oedd y brenhinoedd! Yn y Gymru ganoloesol roedd gwaretheg mor werthfawr ag y mae arian inni heddiw. Roedd y lleoliad hwn mor bwysig nes yr oedd Llywelyn yn barod i gymryd y safle oddi ar ei fab ei hun, Gruffudd, yn 1221 er mwyn adeiladu’r castell. Wedi i Llywelyn farw, parhaodd ei olynwyr i’w ddefnyddio. Fe’i cymerwyd gan Frenin Lloegr, Edward I, yn 1283. Fe wnaeth e newidiadau i’r castell gan obeithio y byddai cyffindir tref Seisnig yn datblygu o’i amgylch. Ni ddigwyddodd hyn. Gadawodd y Saeson y safle yn ystod eu gwrthryfel yn erbyn y llywodraeth yn 1294. Heddiw, mae Castell y Bere yr un mor wyllt ac anghysbell ag yr oedd pan gyrhaeddodd Llywelyn yno gyntaf. Ymestynna ar hyd gopaon creigiog ochr ddwyreiniol cwm Dysynni. Mae’n anodd credu fod y lleoliad anghysbell a phrydferth hwn, unwaith wedi rheoli llwybr pwysig a redai i’r gogledd o arfordir Tywyn tua Dolgellau gan amddiffyn ffin ddehueol Gwynedd. Mae nodweddion arbennig Castell y Bere yn cynnwys cromfa Gymreig – neu cynllun siâp D hirgul o dŵr y de. Gellir cymharu graddfa’r castell hwn â chestyll Cymreig eraill tebyg eu cynllun, megis Ewloe a Charndochan. Yn ogystal, mae’r fynedfa uchel a chain wedi’i chreu yn arbennig ar gyfer amddiffyn, yn nodwedd anarferol o gastell Cymreig yn 1220au. Wrth ei ymyl hefyd mae ffosydd a gatiau tŵr gyda phontydd codi a phorthcwlis mwy na thebyg. Ni ellir cymharu’r fynedfa soffisdigedig hon â’r un gastell Cymreig arall. Yn wir, hyd yn oed mewn cymhariaeth â safonau caeriau Lloegr, byddai mynedfa dechnolegol o’r fath wedi bod o flaen ei amser yn y 1220au cynnar.

Mwynderau

  • Adeilad hanesyddol/heneb gerllaw