Traeth Fairbourne

Fairbourne, Gwynedd, LL38 2DZ

Caiff traeth hardd, euraidd Fairbourne ei gefnu gan fanc serth llawn cerrig man. Maent yn amlinellu darn cul o dir sydd yn ymestyn yr holl ffordd tuag at aber Mawddach, ble ceir golygfeydd ardderchog o’r mynyddoedd, y coedwigoedd a’r môr. Mae modd i’r ochor ddwyreiniol o’r traeth dderbyn gwyntoedd cryfion, sydd yn ei wneud yn fan gwych ar gyfer chwaraeon dŵr, yn enwedig hwylfyrddio, syrffio a hwylio.  Yn ddiddorol, ceir olion o’r Ail Rhyfel Byd yma - ‘Dannedd y Ddraig’, sef trapiau i atal tanciau rhag glanio. Yma fe ddewch o hyd i’r rheilffordd leiaf yng Nghymru, mae’r Rheilffordd Fairbourne yn rhedeg i ben draw'r traeth, ac yn cysylltu pobl gyda fferi fechan sydd yn teithio i Abermaw, sydd ar yr ochor arall i’r aber. Mae cyfyngiadau ar gŵn ar rai mannau o'r traeth.

Rhybudd Diogelwch Traeth Fairbourne

Dilynwch ganllawiau Mentra’n Gall a’r RNLI i gael mwyniant diogel o’n arfordir. 

Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon canlynol ar draeth Fairbourne. 

  • Byddwch yn wyliadwrus o gerrynt cryf
  • Gofal - tonnau mawr yn torri
  • Cymerwch ofal gydag offer enchwythedig mewn gwynt cryf
  • Byddwch yn wyliadwrus o gychod pŵer
  • Peidiwch a tyllu na thyrchu yn y twyni tywod
  • Cadwch blant dan oruchwyliaeth 

Mewn argyfwng galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau

Mwynderau

  • Parcio
  • Siop
  • Yn agos i gludiant cyhoeddus