Canolfan Treftadaeth Tal-y-Llyn
Bu Capel Ystradgwyn yng nghanol bwrlwm gweithgaredd a bywyd cymdeithasol dyffryn cysgodol Tal-y-Llyn, gyda'i lyn brithyll gwyllt enwog a tharddiad yr Afon Dysynni sy'n llifo i'r môr ger Tywyn. Mae llawer o nentydd crisial yn byrlymu lawr y mynyddoedd cyfagos, gyda Pen-y-Gader yr uchaf o rhain, copa Cader Idris. Os ydych yn yr ardal ac angen peth Diwylliant Cymreig, dyma'r lle i chi! Yma cewch brofiad ymwelydd unigryw yng Nghymru, mewn rhaglen o sgyrsiau ac arddangosiadau gydol yr Haf. Medd Marian Rees, y perchennog sydd yn eich croesawu i Ganolfan Ystradgwyn, " Dwi'n eich gwahôdd i gael blas ar y Gymru go iawn. Croeso cynnes i bawb."
Mwynderau
- Yn agos i gludiant cyhoeddus