Tonnau
Mae Oriel Tonnau i’w chanfod yng nghalon hen dref farchnad Pwllheli. Mae yno bellach gasgliad helaeth o gelf cyfoes – lluniau gwreiddiol, tecstiliau, ffotograffau, crefft, cardiau a gemwaith. Bwriad yr oriel yw cyflwyno doniau creadigol Cymru a gwneud y profiad hwnnw mor ddeniadol a phleserus â phosib. Mae’n adeilad hirfain, traddodiadol yn Stryd Penlan (a fu’n siop baent a ffatri wlân cyn hynny), gyda digon o waliau arddangos wedi eu goleuo’n braf. Gyda phedwar arlunydd yn cyflwyno arddangosfa arbennig sy’n cael ei newid deirgwaith y flwyddyn, mae rhywbeth newydd i’w weld a’i fwynhau yno yn rheolaidd. Mae yma le paned i ymlacio ac mae’r oriel ar un lefel, gyda mynediad addas i gadeiriau olwyn.
Mwynderau
- Derbynnir cardiau credyd
- Toiled
- Croesewir teuluoedd
- Mynedfa i’r Anabl
- Caffi/Bwyty ar y safle
- Toiledau Anabl
- Cyfleusterau newid babanod
- WiFi am ddim