Gimblet Rock Holiday Park
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
- 4 Stars
- 5 Stars
Mae Parc Gwyliau Gimblet Rock yn barc gwyliau trawiadol ar Benrhyn Llŷn, eiliadau o Barc Cenedlaethol Eryri, gyda'i olygfeydd dramatig, marina hardd, dyfroedd hwylio tawel a milltiroedd o dywod euraidd. Mae'n lleoliad delfrydol i archwilio'r ardal leol: ewch am dro ar hyd tywod ysgubol Nefyn i anheddiad cerdyn post Porthdinllaen, ymunwch â thaith reilffordd llawn atgofion o Borthmadog, crwydrwch ym mhentref a gerddi rhyfeddol Portmeirion, neu ewch i brofi awyrgylch gosmopolitaidd Abersoch.
Ar y safle, mae cyfleusterau chwaraeon a hamdden o'r radd flaenaf gan gynnwys ystafell ffitrwydd, pwll nofio dan do, sawna a chwaraeon dŵr. Mae digon i blant ac oedolion fel ei gilydd, yn ogystal â chyfleoedd di-ri i ymlacio - yn enwedig gwylio'r machlud o'ch twb poeth awyr agored eich hun ar ddecin eich llety! Hefyd, mae cael diodydd neu ginio ym mar a bwyty'r perchnogion yn ffordd wych o dreulio'r amser tra'n gwerthfawrogi'r golygfeydd.
I archebu gwyliau neu weld mwy am y parc, ewch i'r wefan neu ffoniwch 01758 612770. Fel arall, ffoniwch y rhif hwn os ydych chi am ddarganfod mwy am fod yn berchen ar gaban gwyliau syfrdanol eich hun yn y parc hardd hwn, ewch i gimblet-rock.co.uk , neu e-bostiwch info@gimblet-rock.co.uk.
Mae cyfleusterau Sba a Iechyd a Harddwch ar gael ar safle arall Haulfryn yn yr ardal sef Warren, Abersoch.
Mwynderau
- En-Suite
- Trwyddedig/Trwydded Fwrdd/Bar neu Glwb Trwyddedig
- Darperir ar gyfer deiet arbennig
- Peiriant golchi ar y safle
- Siop gwerthu bwyd ar y safle
- Croesewir teuluoedd
- Ffôn yn yr ystafell/uned
- Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
- Cyfleusterau hamdden
- Cadair uchel ar gael
- Iechyd/Ffitrwydd/Harddwch
- Gweithgareddau awyr agored gerllaw
- Dillad gwely ar gael
- Te/Coffi
- Nwy ar gael
- Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
- WiFi ar gael
- Sba
- Gorsaf tren gerllaw
- Caffi/Bwyty ar y safle
- Derbynnir cardiau credyd
- Llofft llawr gwaelod
- Parcio
- Pwll nofio
- Cawod
- WiFi am ddim
- Cyfleusterau plant
- Traeth gerllaw
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Llwybr cerdded gerllaw