Clwb Golff Nefyn

Lôn Golff, Morfa Nefyn, Gwynedd, LL53 6DA

Retail Phone Number Phone Number icon for Snowdonia retail page 01758 720966

Retail Email Email icon for Snowdonia retail page secretary@nefyn-golf-club.co.uk

Retail Screen Screen icon for Snowdonia retail page https://nefyn-golf-club.co.uk/

Mae'r clwb golff eiconig yn Nefyn yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn cynnig golff cystadleuol i'w holl westeion trwy gydol y flwyddyn mewn lleoliad gwirioneddol ysblennydd. Cynigir ystod o becynnau i unigolion, grwpiau bach neu gymdeithasau mwy a chynhelir diwrnodau / digwyddiadau corfforaethol yma hefyd. Ar ôl rownd o golff, does dim byd gwell nag ymlacio yn y clwb, mae'r bar yn cynnig amrywiaeth eang o ddiodydd sy'n cynnwys cwrw, gwinoedd a gwirodydd o amrywiaeth o fragdai a distyllfeydd lleol. Mae croeso hefyd i bobl nad ydynt yn golffwyr.
Mae'r tîm arlwyo wrth law i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i golffwyr ac ymwelwyr; mae brecwast, byrbrydau prynhawn a min nos a phrydau ar gael wrth archebu ymlaen llaw, gyda'r cinio dydd Sul yn boblogaidd, ac yn cynnwys detholiad da o brif brydau a phwdinau.

Cynghorir ymwelwyr i archebu ymlaen llaw.

Caiff yr holl brydau eu coginio'n ffres gan ddefnyddio cynnyrch lleol lle bynnag y bo modd.