Tŷ Canoloesol Penarth Fawr
Camwch i mewn i’r em gudd hon er mwyn darganfod tŷ canoloesol a gafodd ei hadeiladu er mwyn gwneud argraff. O fewn y muriau cerrig trwchus dewch o hyd i doeau uchel a gwaith coed wedi’i naddu’n gain. Dyma oedd yr arfer ar gyfer tŷ o statws yn y bymthegfed ganrif, er bod coed yn brin! Lleolir y Neuadd ym mhen ucha’r adeilad, gyferbyn â’r ystafelloedd gwasanaethu ym mhen isa’r adeilad. Mae wedi goroesi hyd heddiw, a’r ystafell oedd canolbwynt cymdeithasol Penarth Fawr. Dyma lle byddai’r teulu wedi bwyta, cysgu a diddanu gwesteion pwysig. Roedd lletygarwch Penarth Fawr mor drawiadol daeth yn destun barddoniaeth yn y canol oesoedd!