Bolmynydd
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
- 4 Stars
- 5 Stars
Maes gwersylla teuluol yw Bolmynydd wedi ei leoli yng nghysgod Mynydd Tir Cwmwd Llanbedrog, mewn ardal o harddwch eithriadol naturiol. Gyda gradd 5 seren gan Croeso Cymru mae dod ar wyliau i Bolmynydd yn ddewis delfrydol ar gyfer gwyliau gwersylla hamddenol perffaith gyda chyfleusterau gwych ac awyrgylch gyfeillgar. O’r Parc ceir golygfeydd anhygoel o’r arfordir a mynyddoedd Eryri. Mae o fewn cyrraedd i draethau, siop gyda stoc dda, tafarn deuluol a bistro cartrefol.
Mwynderau
- Gwaredir dŵr llwyd a gwastraff
- Cawod
- Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Pwynt trydan
- Golchdy
- Gwybodaeth i ymwelwyr
- Derbynnir Cŵn
- WiFi am ddim
- WiFi ar gael
- Archebu ar-lein ar gael