Traeth Abererch

Abererch, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6PJ

Mae traeth hyfryd Abererch, sydd yn le gwych ar gyfer teuluoedd, yn ymestyn yr holl ffordd i Bwllheli. Nid yw’r traeth wedi ei ddifetha mewn unrhyw ffordd a rhaid dweud ei fod yn gyntefig iawn, ceir graddiant bas a golygfeydd gwych o Eryri a Bae Ceredigion.  Poblogaidd iawn gyda gorddibynwyr adrenalin - ceir gweithgareddau megis hwylfyrddio, sgïo dŵr, plymio a hwylio. Yn ogystal â’r gweithgareddau yma, dywedir fod Abererch yn le perffaith i hedfan barcud - gan gall yr amodau fod yn wych yno, a physgota – yn enwedig yn y gwanwyn. Ar y cyfan, fe welir traeth Abererch fel man weddol dawel, felly hawdd iawn i’w eistedd yn ôl ac ymlacio yma. Mae cyfyngiadau ar gŵn a hefyd parth gwahardd cychod. Fel cyfleusterau tir ceir maes parcio gerllaw, siop, maes gwersylla, toiledau a mynediad i gludiant cyhoeddus. Felly gwelwch fod rhywbeth at ddant pawb yma.

Rhybudd Diogelwch Traeth Abererch

Dilynwch ganllawiau Mentra’n Gall a’r RNLI i gael mwyniant diogel o’n arfordir. 

Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon canlynol ar draeth Abererch.

  • Byddwch yn wyliadwrus o gerrynt cryf
  • Gofal - tonnau mawr yn torri
  • Cymerwch ofal gydag offer enchwythedig mewn gwynt cryf
  • Byddwch yn wyliadwrus o gychod pŵer
  • Peidiwch a tyllu na thyrchu yn y twyni tywod
  • Cadwch blant dan oruchwyliaeth 

Mewn argyfwng galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau

Mwynderau

  • Parcio
  • Toiled
  • Yn agos i gludiant cyhoeddus