Neuadd Dwyfor - Canolfan Gelfyddydol a Sinema
Mae’r adeilad Fictorianaidd hwn, a adeiladwyd yn 1902 bellach yn ganolfan gelfyddydol fywiog a chyfoes ac yn gartref i lyfrgell Pwllheli. Gyda 222 o seddi a rhaglen greadigol sy’n cynnwys ffilm, cynyrchiadau gan gwmnïau lleol a chenedlaethol, perfformiadau bale, opera, dramâu a chyngherddau. Mae gan Neuadd Dwyfor gymaint i’w gynnig i’r bobl leol ac ymwelwyr ir ardal. Neuadd Tref a Marchnad, adeiladwyd ym 1900, defnyddiwyd fel theatr ers 1902, fel sinema ers 1911. Heddiw mae rhaglen eang ar gael yn Neuadd Dwyfor yn cynnwys ffilmiau newydd, darllediad byw o’r National Theatre, Y Bolshoi Ballet a’r Royal Shakespeare Company yn ogystal â ffilmiau annibynnol.
Ewch i'r wefan i weld beth sydd 'mlaen yn y sinema a'r ganolfan.
Mwynderau
- Derbynnir cardiau credyd
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Gorsaf tren gerllaw
- Gwybodaeth i ymwelwyr
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Traeth gerllaw
- Gweithgareddau awyr agored gerllaw
- Siaradir Cymraeg