Pen Llŷn Bed and Breakfast
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
- 4 Stars
- 5 Stars
Gwely a Brecwast moethus 5* yng nghartref Brian a Jane Thomas, yn Dinas, pentref bychan gwledig gyda golygfeydd gododog o'r arfordir a'r mynyddoedd. Lleoliad canolog ar gyfer Abersoch, Aberdaron a Morfa Nefyn, a'r dref farchnad leol, Pwllheli. Byddwch yn aros mewn un o ddwy ystafell wely gyfforddus dros ben, un efo gweli dwbl a'r llall efo dau weli sengl. Mae gan yr ystafell ddwbl ystafell ymolchi en-suite fawr gyda bath ac ardal gawod modern fawr, a'r un fath a ardal gawod yn unig yn yr ail ystafell. Mae'r ddwy ystafell wely wedi'u dodrefnu'n hyfryd ac mae ganddynt deledu digidol modern, cyfleusterau gwneud te / coffi, sychwyr gwallt ac ati a rhai o'r golygfeydd gorau yng Ngogledd Orllewin Cymru gyda golygfeydd trawiadol ar yr arfordir dros gefn gwlad ysgubol Penrhyn Llŷn, mynyddoedd Llŷn ac Eryri, ac ar draws y môr i Ynys Môn. Medrwch hefyd ddefnyddio lolfa gyfforddus fawr os oes angen gyda theledu a DVD a detholiad o lyfrau ac ati i ymlacio ynddo. Mae brecwast yn amrywiol ac yn hyblyg ac o safon y byddech chi'n ei ddisgwyl o unrhyw sefydliad o ansawdd; cewch frecwast wedi'i goginio neu rhywbeth ysgafnach, salad ffrwythau ffres, yoghourt, tost a choffi / te ffres neu unrhyw beth rhyngddynt; eich dewis chi! Ar foreau braf, dechreuwch gyda brecwast ar y patio wrth i chi fwynhau’r golygfeydd godidog dros benrhyn Llŷn ac Eryri a'r mynyddoedd cyfagos, cefn gwlad a morlun. Cynigir trafnidiaeth yn ôl ac ymlaen o'r llety i'r sawl sy'n dymuno cerdded Llwybr Arfordir Llŷn, neu i'r rhai sy'n dymuno cael eu codi o Orsaf Drenau Pwllheli.
Mwynderau
- En-Suite
- Darperir ar gyfer deiet arbennig
- Peiriant golchi ar y safle
- Croesewir teuluoedd
- Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
- Gweithgareddau awyr agored gerllaw
- Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Dillad gwely ar gael
- Gardd
- Dim Ysmygu
- Te/Coffi
- Siaradir Cymraeg
- WiFi ar gael
- Adeilad hanesyddol/heneb gerllaw
- Golff ar gael (ar y safle neu gerllaw)
- Llwybr beicio Sustrans gerllaw
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Derbynnir cardiau credyd
- Parcio
- Cawod
- WiFi am ddim
- Traeth gerllaw
- Beicio mynydd gerllaw
- Llwybr beicio gerllaw
- Llwybr cerdded gerllaw
- Archebu ar-lein ar gael