Turtle Photography
Mae Turtle Photography wedi bod yn gweithredu o'i adeiladau fferm wedi'u haddasu ym mhentref Abersoch yng Ngogledd Cymru ers 1992. Lluniau cynfas a lluniau wedi'u mowntio a'u fframio o Abersoch a Phen Llŷn yw eu harbenigedd. Mae Turtle Photography wedi sefydlu ei hun fel un o brif ffynonellau ffotograffiaeth morwrol a golygfaol yn Abersoch ac ardal Pen Llŷn, gyda delweddau dirifedi wedi'u cyhoeddi ledled y byd. Gall Turtle Photography gyflenwi printiau Giclee o ansawdd uchel wedi'u mowntio a'u fframio i'w harchebu, yn ogystal â chynfasau gradd arddangos mewn amrywiaeth o feintiau, cardiau post, cardiau cyfarch, talebau rhodd, a hyd yn oed cerfluniau haniaethol ysbrydoledig. Gwneir yr holl gynhyrchion â llaw yn yr adeilad yng Nghanolfan Grefftau Abersoch gan Martin Turtle, a rhoddir gofal a sylw mawr i fanylion pob eitem ac maent yn dwyn ei lofnod o ganlyniad.