Traeth Nefyn

Nefyn, Gwynedd, LL53 6ED

Mae traeth Nefyn, sydd yn ddwy filltir o draeth ysgubol, tywodlyd braf, yn amlinellu bae cysgodol a harbwr naturiol, ar Arfordir Treftadaeth Llŷn. Mae’r traeth, tywodlyd, mân yn boblogaidd iawn gyda physgotwyr, tra bod unigolion brwdfrydig chwaraeon dŵr yn ymddiddori yn yr holl wahanol amodau – mae’r cilgant o dywod yn gwynebu’r gogledd ddwyrain o un pen y traeth ac yn gwynebu gogledd ddwyrain o’r ochor arall, sydd yn creu amryw o amodau i frigdonwyr, hwylwyr a brigdonwyr barcud. Mae’r golygfeydd yn wych hefyd - yn enwedig ar draws i Garn Boduan a mynyddoedd Yr Eifl. Byddwch yn ofalus wrth gerdded lawr i’r traeth, gan fod nifer o’r llwybrau yn  serth. Mae cyfyngiadau ar gŵn ar yr traeth a hefyd parth gwahardd cychod. Uwchben, ar y pentir, ceir cwrs golff safonol, enwog ac ofnadwy o heriol. Mae cyfleuster lleol n cynnwys maes parcio a thoiledau.

Mwynderau

  • Parcio
  • Toiled
  • Yn agos i gludiant cyhoeddus
  • Mynedfa i’r Anabl
  • Siop