Traeth Abersoch

Abersoch, Gwynedd, LL53 7EF

Yn Abersoch fe ddewch ar draws un o’r traethau fwyaf poblogaidd Llŷn Peninsula - a sicr un o’r rhai mwyaf bywiog. Mae’r prif draeth yn le gwych ar gyfer gorweddian gan ei fod mewn man hyfryd a chysgodol.  Mae’r môr yma’n wych ar gyfer chwaraeon dŵr, yn enwedig hwylfyrddio, syrffio a hwylio, ac yn le gwych ar gyfer dysgu’r grefft. Mae’n boblogaidd iawn gyda theuluoedd, diolch i’r tywod a’r ffaith ei fod yn fan gwaharddiad ar gyfer cychod modur ac hefyd efo cyfyngiadau cŵn. Yn ogystal â’r prif draeth, ceir dau draeth llai, traeth Chwarel a thraeth y Pentref. Mae traeth y chwarel yn derbyn gwyntoedd gwych ar gyfer gweithgareddau chwaraeon dŵr a cheir digonedd o barcio. Mae traeth y pentref yn gallu bod yn weddol brysur yn y prif amseroedd yr haf, er hyn mae dal yn werth ei weld. Mae’r cyfleuster yma yn cynnwys siop, toiledau a pharcio.

Rhybudd Diogelwch Traeth Abersoch

Dilynwch ganllawiau Mentra’n Gall a’r RNLI i gael mwyniant diogel o’n arfordir. 

Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon canlynol ar draeth Abersoch. Edrychwch am yr arwyddion coch sy’n cynnwys gwybodaeth perthnasol am y rhan hynny o’r traeth, gan gynnwys pryd a lle caniateir cŵn.

  • Byddwch yn wyliadwrus o gychod pŵer
  • Byddwch yn wyliadwrus o gerbydau yn gyrru ar y traeth a’r llithrfa
  • Ymyl dirwystr – cymerwch ofal
  • Gofal – gwrthrychau tanddwr
  • Cymerwch ofal gydag offer enchwythedig mewn gwynt cryf
  • Peidiwch a tyllu na thyrchu yn y twyni tywod
  • Creigiau llithrig - peidiwch â dringo neu neidio oddi ar y creigiau


Mewn argyfwng galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau

Diogelwch Traeth Abersoch Beach Safety

 

Mwynderau

  • Toiled
  • Parcio
  • Yn agos i gludiant cyhoeddus
  • Mynedfa i’r Anabl