Porth Neigwl

Llanengan, Gwynedd, LL53 7LG

Daw’r enw dramatig Saesneg ar yr ardal hon oherwydd ei siâp hanner cylch, sydd yn tebygu i geg llydan agored. Daw ei dimensiwn uffernol oddi wth nodweddion gorllewinol, ffyrnig, sydd yn cynnig ychydig iawn o gysgod i forwyr. Mae brigdonwyr, ar y llaw arall, yn ei drin fel nefoedd, gan fod tonnau gwych ar gael yn gyson yma, yn enwedig ar ben ogleddol y traeth. Dylai nofwyr gymryd pwyll yma oherwydd cerrynt cryfion. Yn ogystal, rhaid bod yn ofalus ar frig y clogwyni meddal y clogfaen clai, sef gweddillion o’r Oes yr Iâ diwethaf (caiff cerddwyr eu cynghori i gadw’n glir oddi wrth y clogwyni ac oddi wrth fôn y clogwyn rhag ofn iddynt ddisgyn). Mae’r traeth tywodlyd euraidd hwn gydag ambell i garreg man yn ymestyn am oddeutu pedair milltir.

Rhybudd Diogelwch Traeth Porth Neigwl

Dilynwch ganllawiau Mentra’n Gall a’r RNLI i gael mwyniant diogel o’n arfordir. 

Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon canlynol ar draeth Porth Neigwl. Edrychwch am yr arwyddion coch sy’n cynnwys gwybodaeth perthnasol am y rhan hynny o’r traeth.

  • Byddwch yn wyliadwrus o gerrynt cryf
  • Gofal – tonnau mawr yn torri
  • Traeth graddfa serth, dir dwfn ar dop llanw
  • Clogwyni ansefydlog - peidiwch â dringo neu dyllu i mewn i’r clogwyni
  • Cymerwch ofal gydag offer enchwythedig mewn gwynt cryf
  • Byddwch yn wyliadwrus o farcud pŵer
  • Byddwch yn wyliadwrus o gerbydau yn gyrru yn y maes parcio

Mewn argyfwng galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau

Diogelwch Traeth Porth Neigwl Beach Safety

Mwynderau

  • Parcio
  • Yn agos i gludiant cyhoeddus