Porthdinllaen

Morfa Nefyn, Gwynedd, LL53 6DA

Hen bentref bach pysgota yw Porthdinllaen, gydag ymrwymiad cryf â’i môr.  Mae’r traeth tywodlyd yn ehangu dros gildraeth perffaith a harbwr naturiol, lle ceir Gorsaf Bad Achub ar un pen. Roedd bwriad, ar un adeg, i wneud Porthdinllaen yn brif borthladd i groesi tuag at Iwerddon, ond yn lwcus ni ddaeth dim o hyn. Mae Porthdinllaen wedi ei gadw’n berffaith, yn gyfoethog mewn hyfrydwch naturiol, a nawr fe gaiff ei warchod gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gall plant gadw eu hunain yn ddiddig yma drwy geisio casglu crancod neu drwy chwarae yn y dŵr tra gall oedolion fwynhau diod yn nhafarn y Tŷ Coch, man lleol enwog. Caiff mwy o swyn ei ychwanegu i Borthdinllaen, gan y ffaith fod y maes parcio agosaf 10 munud i ffwrdd. Mae cyfyngiadau ar gŵn ar yr traeth a hefyd parth gwahardd cychod.

Rhybudd Diogelwch Traeth  Porthdinllaen

Dilynwch ganllawiau Mentra’n Gall a’r RNLI i gael mwyniant diogel o’n arfordir. 

Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon canlynol ar draeth Porthdinllaen. 

  • Byddwch yn wyliadwrus o gerrynt cryf
  • Gofal - tonnau mawr yn torri
  • Cymerwch ofal gydag offer enchwythedig mewn gwynt cryf
  • Byddwch yn wyliadwrus o gychod pŵer
  • Clogwyni ansefydlog - peidiwch â dringo neu dyllu i mewn i’r clogwyni
  • Cadwch blant dan oruchwyliaeth 

Mewn argyfwng galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau

Mwynderau

  • Toiled
  • Yn agos i gludiant cyhoeddus
  • Pwynt gwefru cerbydau trydan