Quarry Pottery
Mae holl botiau a darnau cerameg Quarry Pottery yn cael eu gwneud a'u tanio ar y safle. Mae'r siop yn gwneud ac yn gwerthu ystod o gerameg gan gynnwys y dreigiau ysmygu, Smoking Dragons, poblogaidd, nwyddau domestig wedi'u gwneud â llaw, lampau castell, anweddwyr a thai tylwyth teg wedi'u cerflunio gan ddefnyddio cleiau amrywiol i gyd mewn ystod o liwiau a dyluniadau. Manet yn stocio amrywiaeth mawr o gerfluniau gardd wedi'u gwneud o gerrig wedi'u hail-gyfansoddi, gan gynnwys pixies, imps, dreigiau, baddonau adar a llawer mwy. Galwch heibio i gael hwyl yn paentio crochenwaith a gweld eu hystod gynyddol o ddreigiau ysmygu a dyluniadau crochenwaith eraill wedi'u gwneud â llaw.