Labrinth y Brenin Arthur

Corris Craft Centre, Corris, Machynlleth, Gwynedd, SY20 9RF

Retail Phone Number Phone Number icon for Snowdonia retail page 01654 761584

Retail Email Email icon for Snowdonia retail page web@kingarthurslabyrinth.co.uk

Retail Screen Screen icon for Snowdonia retail page https://www.kingarthurslabyrinth.co.uk

Hwyliwch drwy'r rhaeadr danddaearol i le hudolus llawn dreigiau, cewri a'r Brenin Arthur. Yn nyfnderoedd y Labrinth, trwy geudyllau enfawr a thwneli troellog, darganfyddwch chwedlau Cymreig hynafol wrth gael arweiniad cychwr o’r Oesoedd Tywyll. Mae'r llyfr stori tanddaearol hwn yn adrodd llawer o'r chwedlau Cymreig cynharaf ac yn cynnwys dreigiau, cewri aruthrol a brwydrau ffyrnig gan gynnwys brwydr olaf y Brenin Arthur, Brwydr Camlan. Mae golygfeydd dramatig, golau a sain yn helpu i ddod â'r hanesion hyn yn fyw. Wrth dynnu at derfyn eich antur - Afon y Drdaig ddewr! Efallai y bydd eich anturiaethau dan ddaear yn tarfu ar warcheidwaid y Labrinth... a fyddwch chi'n osgoi eu crafangau ac yn dychwelyd yn ddiogel i'r byd oddi allan?

Yn ôl uwchben y ddaear, yn Nrysfa'r Chwedlau Cymreig, darganfyddwch yr hen straeon am farch a gwerin tylwyth teg wedi'u cuddio y tu mewn i ddrysfa deiliog. Daw hanesion o chwedlau hynafol a hud y Mabinogion yn fyw yma fel nunlle arall: morwyn wedi ei gwneud o flodau, y brenin â chlustiau mul a gwraig anfarwol y llyn, i enwi dim ond rhai. Mae pob un o'r cymeriadau anghyffredin hyn yn datgelu eu hunain ac yn rhannu eu straeon wrth i chi lywio'r llwybrau troellog, mor hudolus â'r llên gwerin ei hun. Mae yna gwestau i bob oed, a gwobrau i'w hennill. Mae croeso i gŵn ar dennyn.

Mae Labrinth y Brenin Arthur a'r Drysfa Chwedlau Cymreig yn cychwyn o Ganolfan Grefft Corris.

Gwobrau

  • Thumbnail

Mwynderau

  • Caffi/Bwyty ar y safle
  • Parcio (Bws)
  • Arhosfan bws gerllaw
  • Parcio
  • Toiled
  • WiFi ar gael
  • WiFi am ddim
  • Cyfleusterau newid babanod
  • Croeso i bartion bws
  • Derbynnir cardiau credyd
  • Croesewir teuluoedd