Yr Hen Stablau

  • 1 Star Rating Star icon rating the accommodation 1 Stars
  • 2 Star Rating Star icon rating the accommodation 2 Stars
  • 3 Star Rating Star icon rating the accommodation 3 Stars
  • 4 Star Rating Star icon rating the accommodation 4 Stars

Pantlludw, Pennal, Gwynedd, SY20 9JR

Retail Phone Number Phone Number icon for Snowdonia retail page 01654 702218 Retail Mobile Number Mobile Number icon for Snowdonia retail page 07966 912497

Retail Email Email icon for Snowdonia retail page stay@selfcateringcottagewales.co.uk

Retail Screen Screen icon for Snowdonia retail page http://selfcateringcottagewales.co.uk/

Mae'r Hen Stablau yn stablau o'r 1840au sydd wedi cael eu hadnewyddu'n ddiweddar. Maent wedi'u lleoli mewn gerddi moethus ar lethr coediog ac iddo olygfeydd dros Ddyffryn Dyfi ger Machynlleth. Mae'r lleoliad heddychlon, diarffordd a hardd hwn yn golygu bod Yr Hen Stablau yn ddelfrydol os ydych am ymlacio, paentio, darllen neu ysgrifennu. Mae hefyd yn lle ardderchog ar gyfer gwyliau mwy egnïol: mae'n bosibl cerdded, beicio, chwarae golff, nofio a gwylio adar gerllaw.
Mae lle i chwech gysgu ynddo, mewn tair ystafell wely. Mae yna fynediad i gadair olwyn ym mhobman ar y llawr gwaelod, gan gynnwys i ystafell wely ddwbl/ystafell wely pâr ac ystafell gawod. Tref Machynlleth 1 filltir. Yr arfordir 8 milltir. WiFi, man gwefru cerbydau trydan, a chroeso i anifeiliaid anwes.
Mae'r bwthyn yn adeilad effeithlon o ran ynni, ac wedi cael ei adnewyddu gan ddefnyddio llechi a phren lleol. Mae wedi'i leoli mewn gardd brydferth, 1 filltir o dref Machynlleth ac 8 milltir o'r arfordir. Mae lle i chwech gysgu ynddo, ac mae yna fynediad i gadair olwyn ar y llawr gwaelod, ynghyd â theclyn codi symudol. Croeso i anifeiliaid anwes. 

Mwynderau

  • Peiriant golchi ar y safle
  • Croesewir teuluoedd
  • Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
  • Cyfleusterau hamdden
  • Arhosfan bws gerllaw
  • Gweithgareddau awyr agored gerllaw
  • Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
  • Dillad gwely ar gael
  • Gardd
  • Dim Ysmygu
  • Te/Coffi
  • Cot ar gael
  • Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
  • WiFi ar gael
  • Darpariaeth ar gyfer ymwelwyr anabl
  • Gorsaf tren gerllaw
  • Llwybr beicio Sustrans gerllaw
  • Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
  • Derbynnir cardiau credyd
  • Llofft llawr gwaelod
  • Parcio
  • Pwynt gwefru cerbydau trydan
  • WiFi am ddim
  • Beicio mynydd gerllaw
  • Llwybr beicio gerllaw
  • Llwybr cerdded gerllaw

Gwobrau

  • Thumbnail