Delyn Glass
Uned 9, Canolfan Grefft Corris, Corris, Gwynedd, SY20 9RF
Ers ei ffurfio ym 1984, mae Delyn Glass wedi ennill enw da am ansawdd ei grefftwaith a'i ddyluniad, ac wedi datblygu casgliad sydd wedi'i ddylunio a'i wneud i'r ansawdd uchaf, gan gyflenwi allfeydd manwerthu ledled y DU. Mae pob cerflun gwydr yn unigryw ac ar gael mewn gorffeniadau plaen, lliw, barugog a gloyw. Yn ogystal â'u hystod cynnyrch, maent hefyd yn dylunio ac yn cynhyrchu eitemau comisiwn.