Gwesty Pen-Y-Bont Hotel
Ar lan De Orllewinol Llyn Talyllyn fe welwch Westy Pen-y-Bont, tafarn 16eg Ganrif, o ddyddiau'r goetsh fawr, gydag un o'r golygfeydd mwyaf eiconig yng Nghymru. Mae'r lleoliad, ger Cader Idris, copa uchaf Deheudir Eryri, yn ddelfrydol ar gyfer cerddwyr. Mae llonyddwch a harddwch bythol natur i'w gweld yma ar stepen y drws. Mae tanau coed clyd yn cynhesu y Bwyty a'r Bar, lle gallwch fwynhau peint o gwrw go iawn, neu bryd o fwyd wedi'i goginio gartref o'r fwydlen helaeth. Yn yr Haf, mae'r ardd gwrw yn sicr o fod yn un o'r lleoedd mwyaf syfrdanol i fwyta ar y blaned.