Dolgelynen
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
- 4 Stars
Mae ffermdy Dolgelynen yn cynnig arhosiad cyfforddus ac ymlaciol ar fferm deuluol, weithredol defaid a llaeth yn Eryri. Mae'n ganolfan ddelfrydol ar gyfer cerdded a theithio ardal deheudir Eryri. Mae gan y ffermdy gyfoeth o swyn a chymeriad ac mae'n edrych dros afon Dyfi gyda golygfeydd hyfryd, heddwch a llonyddwch. Mae sedd ardd a bwrdd picnic at ddefnydd gwesteion ac mae teithiau cerdded diddorol o'r fferm.